We value your privacy. This website uses cookies to ensure you get the best experience. Do you agree to our cookie policy?
Grŵp HCE
Grŵp Gorfodi'r Uchel Lys yw cwmni gorfodi Uchel Lys annibynnol mwyaf y wlad ac mae ganddo fwy o swyddogion profiadol sydd wedi’u hawdurdodi nag unrhyw gwmni arall.
Oherwydd ein bod ni’n gwmni annibynnol ac yn eiddo preifat, gallwn ddatblygu a rheoli ein busnes mewn ffordd sy’n rhoi ein cleientiaid yn gyntaf. Ym mhopeth a wnawn, rydym wedi ymrwymo i gwrdd â disgwyliadau cleientiaid a rhagori arnynt.
Mae ein cleientiaid yn ymddiried ynom i ddarparu gwasanaeth hollbwysig. Rydym wedi ymrwymo i fodloni eu disgwyliadau a rhagori arnynt. Mae ymddygiad moesegol a thryloywder wrth galon ein busnes, ar gyfer ein cleientiaid, ein hawlwyr a’n diffynyddion.
Gwasanaethau Grŵp HCE
Rydym yn ymwneud â phob agwedd ar orfodi dyfarniadau, gan gynnwys gwrit rheoli ar gyfer hawlwyr cenedlaethol a rhyngwladol, dyfarniadau ACAS a'r tribiwnlys cyflogaeth a gweithredu prosesau.
Rydym hefyd yn darparu cyfres gynhwysfawr o wasanaethau ar gyfer landlordiaid a chyfreithwyr masnachol a phreswyl, gan gynnwys eiddo tenantiaid, cael gwared â theithwyr, adennill ôl-ddyledion rhent, fforffedu lesi a throi gwrthdystwyr/sgwatwyr allan.
Beth sy'n gwneud Grŵp HCE yn arbennig?
Rydym yn cyflawni hyn drwy recriwtio pobl a buddsoddi yn eu datblygiad. Mae ein holl weithwyr a’n swyddogion gorfodi, sydd wedi’u recriwtio i weithio yn eu hardal leol, yn ein galluogi ni i sicrhau gwybodaeth leol, tryloywder ac ymddygiad moesegol.
Rydym yn darparu hyfforddiant ar gyfer ein cleientiaid a’n swyddogion gorfodi. Mae’r hyfforddiant hwnnw wedi ennill nod ansawdd ac mae’n cyd-fynd â’r Fframwaith Rheoleiddio Cymwysterau. Mae ein cyrsiau wedi’u cymeradwyo gan Agored Cymru a’u cadarnhau gan Sefydliad Siartredig y Gweithredwyr Cyfreithiol, gan ein galluogi ni i orfodi yn gadarn ond yn deg.
Mae ein swyddogion gorfodi hynod fedrus yn cael eu cydnabod am eu gwybodaeth leol sylweddol ac am eu hymrwymiad cadarn i gynnal gwerthoedd cyfrifoldeb ac atebolrwydd, gydag ymroddiad traddodiadol i broffesiynoldeb rhagorol.
Yng Ngrŵp Gorfodi'r Uchel Lys, rydym wedi ymrwymo i addysgu yn ogystal ag i orfodi. Rydym yn credu bod penderfyniad ar sail gwybodaeth yn benderfyniad cywir ac y dylai ein cleientiaid ddeall y prosesau sy'n ymwneud â gorfodi.