PDF 2.14MB
Rhent masnachol (CRAR)
Yr hyn sy’n allweddol er mwyn rheoli eiddo yn llwyddiannus yw sicrhau llif arian drwy daliadau rhent rheolaidd. Pan fydd hyn yn methu, gallwn weithredu’n gyflym i sicrhau buddiannau’r landlord drwy gymryd rheolaeth o nwyddau o dan CRAR (adfer ôl-ddyledion rhent masnachol).
Cyflwynwyd CRAR ym mis Ebrill 2014 yn sgil mabwysiadu Rhan 3 y Ddeddf Llysoedd a Thribiwnlysoedd (2007) a’r Rheoliadau Cymryd Rheolaeth o Nwyddau (2013).
Pryd mae modd defnyddio CRAR
Mae CRAR yn disodli’r drefn unioni atafael flaenorol. Does dim angen gorchymyn llys, ond mae rhai amodau cysylltiedig â CRAR:
- Rhaid bod les ysgrifenedig mewn grym
- Dim ond ar gyfer eiddo masnachol y mae modd ei ddefnyddio
- Rhaid i’r rhent fod yn ddyledus ers o leiaf 7 diwrnod
- Dim ond i adfer rhent, llog a TAW yn unol â’r les y mae modd ei ddefnyddio
- Does dim modd adfer gwasanaeth na thaliadau eraill yn unol â CRAR
- Rhaid rhoi 7 diwrnod o rybudd gorfodi i denantiaid ar ôl i’r rhent fod yn ddyledus
- Dim ond swyddog gorfodi all gymryd rheolaeth o nwyddau sy’n eiddo i’r tenant yn unol â CRAR
Gan fod yn ystyriol o berthnasoedd rhwng landlordiaid a thenantiaid, byddwn yn adfer y rhent sydd heb ei dalu mewn modd mor ddidrafferth â phosibl, heb i’r landlord fynd i gostau (oni ofynnir i ni dynnu’n ôl).
Rhoi cyfarwyddyd
Caiff ein gwasanaethau CRAR eu darparu gan ein rhiant-gwmni, High Court Enforcement Group, sef y cwmni annibynnol mwyaf o Swyddogion Gorfodi Awdurdodedig yr Uchel Lys.
Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r tîm ar 03330 031919, neu ddefnyddio’r ddolen isod i roi cyfarwyddyd i ni ar unwaith.

