Polisïau
Cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol
Mae Excel Civil Enforcement yn cydnabod y bydd y gwasanaeth rydym yn ei ddarparu yn cael effaith uniongyrchol ac anuniongyrchol ar gymunedau ac ar yr amgylchedd rydym yn gweithredu ynddi. Rydym wedi ymrwymo i leihau unrhyw effeithiau niweidiol a allai godi i’r graddau mwyaf posibl. Byddwn yn trin dyledwyr yn deg, gyda pharch a chwrteisi, a byddwn yn gweithredu mewn modd agored a thryloyw heb wahaniaethu na dangos ffafriaeth.
Byddwn yn cynnal y safonau proffesiynol uchaf posibl, gan ystyried y gofynion o ran cleientiaid, corfforaethau a deddfwriaeth yn llawn, a chynnal urddas a chyfrifoldeb y cyfreithiau rydym yn gweithredu yn unol â nhw. Byddwn yn hybu parch tuag at y gyfraith a’r rheini rydym yn gorfodi’r gyfraith yn eu herbyn fel ei gilydd.
Polisi preifatrwydd
Credwn ei bod yn hanfodol bod y cwmni yn trin gwybodaeth bersonol yn gywir ac yn gyfreithlon er mwyn cynnal hyder ein cleientiaid; felly rydym yn rheoli ac yn prosesu gwybodaeth bersonol mewn modd cywir a chyfreithlon.
Gallwch ddarllen ein polisi preifatrwydd drwy glicio ar y ddolen isod.
Polisi cwynion
Mae Excel Civil Enforcement o'r farn fod cwynion yn ffordd werthfawr o werthuso ansawdd staff a gwasanaethau a byddwn yn delio â phob cwyn fel mater o flaenoriaeth, p'un ai a yw'n dod gan gleientiaid, eu cwsmeriaid neu aelod o'r cyhoedd.
Mae rheolwyr y cwmni wedi ymrwymo i ddatblygu'r broses delio â chwynion yn barhaus er mwyn sicrhau dull tryloyw a theg o dderbyn cwynion, ymchwilio iddynt a'u datrys, i wella boddhad cwsmeriaid.
Mae polisi cwynion y cwmni a'i weithdrefnau delio â chwynion yn cydymffurfio â'r safon ansawdd rheoli cenedlaethol ar gyfer Boddhad Cwsmeriaid (ISO 10002:2014) ac yn cyd-fynd ac amcanion y cwmni o ran ansawdd.
Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015
Mae Excel Civil Enforcement yn cydnabod y cyfrifoldeb rydym yn ei rannu â'n cyflenwyr, i brynu deunyddiau a darparu ein gwasanaethau mewn modd moesegol. Fel rhan o'r ymrwymiad hwn, rydym yn cydnabod ein cyfrifoldebau yng nghyswllt Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015 a byddwn yn sicrhau tryloywder o fewn y sefydliad a gyda'n cyflenwyr nwyddau a gwasanaethau.
Rydym am i'n cwsmeriaid fod yn hyderus bod ein partneriaid busnes yn trin eu gweithwyr yn deg, gan barchu hawliau dynol, ac yn sicrhau nad yw'r gweithwyr yn agored i amodau gwaith anniogel nac yn cael eu gorfodi i fod yn gaethweision mewn unrhyw ffordd. Dim ond cyflenwyr sy'n rhannu ein safonau a'n gwerthoedd y byddwn yn eu hystyried yn briodol ar gyfer masnachu â nhw.
Rydyn ni o'r farn fod rhoi safonau moesegol ar waith yn gwella ansawdd, cynhyrchiant a llesiant gweithwyr, sydd o fudd i'n cyflenwyr a'n cwsmeriaid.
Polisi amgylcheddol
Rydym yn gweithredu System Reoli Amgylcheddol sydd wedi'i hachredu gan y Sefydliad Safonau Prydeinig (BSI) i'r safon ddiweddaraf (2015) ac mae'r amgylchedd yn destun pryder gwirioneddol i ni.
Rydym yn achub ar bob cyfle i hybu rhaglen cynaliadwyedd eang o ran lleihau gwastraff ac allyriadau a defnyddio llai o ynni, felly byddwn yn cyfrannu at les amgylcheddol y cymunedau rydym yn gweithredu ynddynt.
Rhagor o wybodaeth
Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni.