Gwybodaeth i ddyledwyr

Gwybodaeth gyffredinol

Nid ydym yn gymwys i roi cyngor i unrhyw un sy’n wynebu camau gorfodi ac fe fyddem yn annog dyledwyr i geisio cyngor cyfreithiol annibynnol. Mae nifer o asiantaethau, fel Cyngor ar Bopeth, sydd â’r profiad angenrheidiol i ddarparu’r cyngor cywir dan yr amgylchiadau cywir. Ewch i weld ein tudalen o ddolenni defnyddiol i gael rhagor o wybodaeth.

Wedi dweud hynny, gallai’r cynghorion canlynol fod yn ddefnyddiol:

  1. Peidiwch â rhoi’ch pen yn y tywod – ni fydd y broblem yn diflannu – po hiraf y byddwch anwybyddu’r broblem, y gwaethaf yr aiff hi
  2. Peidiwch â chael eich temtio i ‘gyfuno’ eich dyledion – gofynnwch am gyngor proffesiynol – neu gallech chi fynd i fwy o ddyled yn y pen draw
  3. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod beth yw eich hawliau – efallai y gallech gael budd-daliadau i dalu rhywfaint o’ch dyled
  4. Peidiwch ag anwybyddu gorchmynion llys – er enghraifft, caiff y rhan fwyaf o ddyfarniadau’r llys sirol eu rhoi’n awtomatig oherwydd bod y dyledwr ddim yn ymateb

Delio â swyddogion gorfodi

Peidiwch ag anwybyddu’r swyddogion gorfodi (beilïaid gynt). Gall y swyddog gorfodi helpu i ddatrys sefyllfa a fydd yn sicr o waethygu fel arall.

Gellir osgoi hyn drwy ddelio â’r swyddog gorfodi sydd, mewn nifer o achosion, yn gallu helpu drwy wneud trefniant eich bod yn talu mewn rhandaliadau y cytunir arnynt. Fodd bynnag, er mwyn gwneud trefniant, rhaid i’r swyddog gorfodi sicrhau’r ddyled drwy gymryd rheolaeth o nwyddau. Nid yw hyn yn golygu y bydd yn mynd â’r nwyddau ar unwaith, ond mae’n broses lle mae’r swyddog gorfodi yn cymryd rheolaeth gyfreithiol o’r nwyddau ac, yn y rhan fwyaf o achosion, yn eu gadael fel maen nhw tra byddwch yn gwneud y taliadau.

Fodd bynnag, os byddwch yn methu talu, mae’n debygol y bydd y nwyddau yn cael eu cymryd a’u gwerthu mewn arwerthiant.

Gall y swyddog gorfodi roi cerdyn talu i chi, sy’n caniatáu i chi dalu mewn unrhyw swyddfa bost am gost isel.

Pam ddylech chi adael i’r swyddog gorfodi ddod i mewn

Yn aml, cynghorir dyledwyr sydd methu talu’r ddyled yn llawn i beidio â gadael i’r swyddog gorfodi ddod i mewn. Er bod y cyngor hwn yn atal y swyddog rhag gwneud ei waith dros dro, nid yw’n helpu eich sefyllfa a bydd yn cynyddu eich dyled.

Os byddwch yn gwrthod gadael i’r swyddog gorfodi ddod i mewn, ni fydd yn gallu cymryd rheolaeth gyfreithiol o’r nwyddau ac felly ni fydd yn gallu rhoi trefniant talu i chi. Oherwydd bod dyletswydd ar y swyddog i barhau i ddod heibio nes caiff y ddyled ei thalu, nes byddwch yn cytuno ar drefniant talu, neu nes bydd nwyddau’n cael eu hatafaelu a’u cymryd i’w gwerthu, bydd eich amharodrwydd i ddelio â’r mater na gadael i’r swyddog eich helpu yn cynyddu’r costau y byddwch yn eu hwynebu.

Dyletswydd y swyddog gorfodi yw bodloni’r warant sydd ganddo/ganddi. Nid yw’r swyddog eisiau cymryd y nwyddau – mae’n cymryd amser ac yn waith caled yn aml!

Helpwch ni i’ch helpu chi – peidiwch â’n hanwybyddu ni. Po gyntaf y byddwch yn delio â’r sefyllfa, y lleiaf y bydd yn ei gostio i chi.

Cysylltu â chi

Efallai y byddwn yn cysylltu â chi trwy nifer o ddulliau gan gynnwys ymweliad uniongyrchol â'ch adeilad, e-bost, llythyr, testun SMS neu gyswllt ffôn gan ein Hadran Gasgliadau a systemau cyswllt ffôn awtomataidd.

Peidiwch ag anwybyddu ein cyswllt â chi.

Pwyntiau cyswllt dyledwyr

Gall dyledwyr gysylltu â ni dros y ffôn ar 0845 370 7775 a 01492 531345

Neu trwy e-bost i info@excelenforcement.co.uk

Excel Quick Pay – yr ap newydd i ddyledwyr

Gallwch lwytho’r ap i lawr a’i ddefnyddio am ddim. Mae wedi’i ddylunio i roi ffordd gyflym a hawdd i ddyledwyr reoli eu dyledion.

Dysgu mwy a lawrlwytho

Cofrestrwch i gael ein cylchlythyr

Cofrestrwch a byddwn yn anfon ein cylchlythyr misol atoch chi ynghyd â manylion am ein eLyfrau, gweminarau a digwyddiadau.

Tanysgrifio