Gwasanaethau
Gwasanaethau swyddogion gorfodi ardystiedig...
Busnes craidd Excel Civil Enforcement yw darparu gwasanaethau gan swyddogion gorfodi ardystiedig (gwasanaethau beilïaid ardystiedig cyn hynny). Mae ein cleientiaid yn cynnwys awdurdodau lleol ac adrannau’r Llywodraeth.
- Ni fydd ein prosesau adfer yn achosi caledi diangen i ddyledwyr
- Mae ein gweithrediadau yn gwahaniaethu rhwng dyledwyr sydd mewn trafferthion ariannol gwirioneddol a dyledwyr sydd wedi peidio â thalu’n fwriadol
- Rydym yn amddiffyn trydydd partïon a’u heiddo rhag effeithiau gorfodi
Ein hegwyddorion
Dyma grynodeb o’r egwyddorion sy’n sail i’r cwmni ac yn cynnal ei enw da fel asiantaeth orfodi:
- Trin dyledwyr yn deg, yn gwrtais a gyda pharch
- Gweithredu heb wahaniaethu na dangos ffafriaeth o unrhyw fath – gan dalu sylw penodol i ystyriaethau o ran amrywiaeth, diwylliant a chrefydd
- Darparu gwasanaethau mewn modd agored a thryloyw
- Derbyn cyfrifoldeb am bopeth rydyn ni’n ei wneud neu sy’n digwydd o’n hachos ni
Darparu gwasanaethau yng Nghymru
Yng Nghymru, rydym yn darparu gwasanaeth dwyieithog cynhwysfawr yn unol â Deddf yr Iaith Gymraeg 1993.
Mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg wedi cymeradwyo Excel am fod yn gwmni blaenllaw o ran dwyieithrwydd yn y sector preifat.
English Cymraeg