Mân ddyledion

Mae mân ddyledion yn cwmpasu nifer o bethau, gan gynnwys adfer gordaliadau budd-daliadau tai, trwyddedau, ôl-ddyledion tenantiaid blaenorol ar gyfer eiddo preswyl a masnachol, taliadau archwiliadau cynllunio a dyledion corfforaethau a defnyddwyr.

Rydym yn cynnig gwasanaeth llawn i adfer mân ddyledion, gan gynnwys galwadau ffôn, llythyrau ac ymweld â’r dyledwr.

Gordaliadau budd-daliadau tai

Yn ystod y cyfnod lle bydd hawlwyr yn cael eu trosglwyddo i gredyd cynhwysol, bydd rhai pobl yn dal i hawlio Budd-dal Tai, a bydd llawer o bobl wedi cael eu gordalu a heb ad-dalu’r gordaliad hwnnw eto. Gyda gwerth dros £1 biliwn o daliadau budd-dal tai yn cael eu gwneud bob blwyddyn, mae Excel Civil Enforcement yn gweithio gydag awdurdodau lleol i adfer gordaliadau sy’n ddyledus.

Opsiynau talu ar gyfer mân ddyledion

Rydym yn cynnig amryw o opsiynau talu i ddyledwyr er mwyn gwneud y broses adfer yn fwy rhwydd ac yn haws ei chyflawni.

Opsiwn adfer yr Uchel Lys ar gyfer mân ddyledion

Gellir delio â’r dyledion hyn drwy brotocolau casglu dyledion, neu gallwn eich helpu chi i uwchgyfeirio’r broses adfer drwy’r Uchel Lys drwy drosglwyddo dyfarniad y Llys Sirol i’r Uchel Lys ar gyfer gorfodi dan writ rheoli.

Lle nad oes modd adfer, byddwn yn darparu cyngor a gwybodaeth fanwl ynglŷn â’r camau pellach y gallwch eu cymryd.

Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am sut gall ein rhiant-gwmni, High Court Enforcement Group, orfodi dyfarniadau heb eu talu yn unol â gwrit rheoli Uchel Lys, ewch i’r wefan.

Excel Quick Pay – yr ap newydd i ddyledwyr

Gallwch lwytho’r ap i lawr a’i ddefnyddio am ddim. Mae wedi’i ddylunio i roi ffordd gyflym a hawdd i ddyledwyr reoli eu dyledion.

Dysgu mwy a lawrlwytho

Cofrestrwch i gael ein cylchlythyr

Cofrestrwch a byddwn yn anfon ein cylchlythyr misol atoch chi ynghyd â manylion am ein eLyfrau, gweminarau a digwyddiadau.

Tanysgrifio