Diogelwch
Ar ôl gorfodi gwrit meddiant i symud protestwyr neu deithwyr o eiddo neu dir awdurdod lleol, mae’n bwysig diogelu’r safle er mwyn ei rwystro rhag cael ei feddiannu eto.
Mae hyn hefyd yn wir pan fydd teithwyr yn cael eu symud o dir o dan Gyfraith Gyffredin (Halsbury).
Cynllunio mesurau diogelwch ar ôl troi pobl allan
I atal safleoedd rhag cael eu hailfeddiannu, bydd ein rhiant-gwmni High Court Enforcement Group yn eich cynghori chi ar ba gamau i’w cymryd i atal ailfeddiannu, yn ddibynnol ar lefel y risg a natur y safle. Wrth gwrs, mae’n haws diogelu safle diwydiannol neu faes parcio na thir agored.
Efallai y bydd rhai o’ch mesurau atal arfaethedig yn rhai tymor hwy, fel rhwystrau naturiol – coed, logiau, cerrig ac ati – ond bydd angen diogelu’r safle yn y cyfamser, a gall HCE Group eich helpu chi i baratoi ar gyfer hynny.
Bydd HCE Group yn paratoi cynlluniau ymlaen llaw, er mwyn gallu cytuno ar y rhain a’u rhoi ar waith cyn gynted â phosibl ar ôl symud y teithwyr neu eu troi allan.
Gwasanaethau diogelwch
Bydd y swyddog gorfodi yn aros ar y safle nes bydd yr holl feddianwyr wedi’u symud a’u hatal rhag dychwelyd. Ar ôl cwblhau’r broses honno, gall y tîm diogelwch fwrw ymlaen â’i waith.
Gall HCE Group ddarparu gweithwyr – er enghraifft, swyddogion diogelwch â thrwydded SIA gyda chŵn – i amddiffyn y terfyn tra bydd mesurau diogelwch mwy parhaol yn cael eu rhoi ar waith.
Rydym hefyd yn darparu’r mesurau diogelwch canlynol:
- Drysau a sgriniau diogelwch
- Ffensys
- Pyst a rhwystrau concrid
- Systemau Teledu Cylch Cyfyng (CCTV) a monitro 24 awr
- Systemau larwm a monitro 24 awr
Rhagor o wybodaeth
Byddwn bob amser yn trafod mesurau diogelwch â chi yn ystod y cam cynllunio, ac mae croeso i chi ein ffonio ni ar 03330 031919 neu gysylltu â ni gydag unrhyw ymholiadau ynghylch diogelwch.