![](https://foregoing-zebra.transforms.svdcdn.com/production/images/Mockups/Training-prospectus-cover-image.jpg?w=600&h=400&auto=compress%2Cformat&fit=crop&dm=1565788348&s=74415837e5e7ea72d9e9f4999dd3fe18)
PDF 1.33MB
Yn Excel mae gennym ddull hyfforddi rhagweithiol. Mae cefnogi diwylliant dysgu uwch yn sicrhau ein bod yn croesawu heriau a bod sgiliau a gwybodaeth staff yn cael eu gwella’n barhaus er mwyn gwella eu capasiti a’u gallu i gyflawni eu dyletswyddau; dyma sy’n yn gwneud Excel yn wahanol i asiantaethau gorfodi eraill.
High Court Enforcement Group, rhiant-gwmni Excel, yw’r unig asiantaeth gorfodaeth sydd hefyd yn ganolfan asesu addysg gydnabyddedig ar gyfer dyfarniadau a thystysgrifau. Mae’r cymwysterau hyn wedi’u hardystio gan y Chartered Institute of Legal Executives (CILEx).
Ni yw’r unig gwmni gorfodi yn y wlad sy’n cynnig y canlynol gyda chymeradwyaeth CILEx:
Felly, mae High Court Enforcement Group ac Excel ar flaen y gad o ran rhagoriaeth addysgol a datblygu staff ar gyfer y rheini sy’n ymwneud ag adfer dyledion.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ein hyfforddiant drwy gysylltu â’r tîm drwy ein ffurflen ymholiadau hyfforddiant neu anfon e-bost atom.