Ailgylchu gwarantau
Yn Excel Civil Enforcement, rydym yn darparu gwasanaeth ailgylchu gwarantau ledled Cymru a Lloegr. Mae hyn yn cynnwys ailgyflwyno gwarant rheoli i ddarparwr newydd lle bo’r swyddog gorfodi blaenorol wedi bod yn aflwyddiannus.
Pam gallai fod yn syniad da ystyried ailgylchu gwarantau
Efallai y byddwch yn dymuno ystyried ailgylchu gwarantau os na fuoch chi mor llwyddiannus ag oeddech chi wedi’i obeithio gyda’ch achosion.
Fel rhan o’ch gwasanaeth ailgylchu gwarantau, byddwn yn gwneud gwaith olrhain trwyadl, ac mae hyn yn aml yn amlygu gwybodaeth newydd ynglŷn ag amgylchiadau a lleoliad y dyledwyr. Gallai’r wybodaeth newydd hon fod yn gyfeiriad newydd neu’n gyflogwr newydd a gall hyn osod y seiliau ar gyfer gwaith gorfodi llwyddiannus.
Pan fydd gennym yr wybodaeth gyfredol, byddwn yn mynd ati i orfodi yn eiddo’r dyledwr.You might want to consider warrant recycling if you’ve not had the success you’d hoped for with your cases.
Gwarant yn dod i ben
Os yw gwarant arestio wedi dod i ben, gallwch wneud cais i ymestyn y warant am 12 mis arall. Wedyn, gellir neilltuo’r gwaith gorfodi i’n tîm o swyddogion ledled y wlad.
Gorchmynion dyled
Pan fydd gorchymyn dyled yn cael ei gyflwyno i awdurdod lleol, nid oes ganddo ddyddiad dod i ben. Felly, gellir mynd ati i orfodi unrhyw bryd.
Gorchmynion dyled, am resymau amlwg, yw’r cam olaf y bydd awdurdodau lleol yn ei gymryd. Mae’r grym maent yn eu cyfleu yn golygu bod sawl opsiwn ar gael i’r awdurdod lleol, gan gynnwys cyflwyno sancsiwn i’r dyledwr gael ei garcharu.
Dyma mae gorchymyn dyled yn ei olygu:
- Gofynnir i’r dyledwr ddarparu gwybodaeth berthnasol i gynorthwyo â’r gwaith adfer
- Gall yr awdurdod lleol wneud gorchymyn atafaelu enillion
- Gall y swyddog gorfodi sydd wedi cael cyfarwyddyd atafaelu nwyddau i fodloni’r ddyled
- Gall yr awdurdod lleol ofyn am ddidyniad o fudd-daliadau
- Gall yr awdurdod lleol sicrhau gorchymyn arwystlo yn erbyn eiddo dan forgais
Os ydych chi, fel awdurdod lleol, yn dymuno gwarantu neu ofyn i ni orfodi gorchymyn dyled, cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth am sut gallwn eich helpu.