Geirdaon
“Mae’n wych gweithio gyda chwmni Excel. Rydw i’n hoffi bod eu swyddogion yn weithwyr PAYE oherwydd gallwn ni fod yn hyderus fod prosesau cadarn ar waith. Roedden nhw wedi gwneud y broses o osod ac integreiddio’r system yn hawdd ac fe wnaethon nhw ddarparu’r holl wasanaethau yr oedd arnom eu hangen, ynghyd â chyfraddau casglu eithriadol.”
“Mae gan eu tîm rheoli a’u staff lawer o wybodaeth ac maen nhw’n barod iawn eu cymorth. Byddwn yn sicr yn argymell Excel”
“Mae’r cyfarwyddwyr yn frwd dros y busnes a thros fod y gorau yn y diwydiant ac mae’r brwdfrydedd hwn yn amlwg yn niwylliant y sefydliad.”
“Mae’r modiwlau hyfforddiant ar bobl agored i niwed yn hynod o berthnasol a byddan nhw’n ein helpu i ddelio’n briodol â materion o’r fath. Mae’r hyfforddiant yn cynrychioli gwerth eithriadol, yn cefnogi ein nodau o ran arferion gorau ac yn rhoi budd i’r gymuned leol.”
“Mae’r gweithdrefnau cadarn sydd ar waith gennych i helpu pobl sy'n agored i niwed wedi gwneud argraff fawr arnaf.”
“Defnyddiol – dylai fod yn orfodol i bob asiant gorfodi gymryd rhan yn eu proses ardystio.”
“Cwrs arall llawn gwybodaeth sydd wedi fy mharatoi i asesu dyledwyr agored i niwed ac ymateb iddynt.”
“Cwrs ardderchog sy’n ddefnyddiol iawn i unrhyw un sy’n gysylltiedig ag adferiad o ddydd i ddydd.”
“Diwrnod da iawn. Llawn gwybodaeth ac rwyf wedi dysgu llawer y gallaf i ei rannu.”
“Llawn gwybodaeth ac yn gwneud i ni feddwl o’r dechrau i’r diwedd.”
“Doeddwn i ddim yn gwybod llawer am iechyd meddwl cyn hyn. Cafwyd llawer o fanylion ar wahanol feysydd o’r mater, a beth i gadw llygad amdano.”
“Pwnc anodd ond cafodd ei gyflwyno’n dda ac mewn ffordd sensitif.”