Treth cyngor

Mae’n hanfodol adfer treth cyngor heb ei thalu er mwyn sicrhau bod awdurdodau lleol yn gallu darparu gwasanaethau i’r gymuned.

Gorfodi dyledion treth cyngor

Rydym yn darparu atebion pwrpasol i awdurdodau lleol sy’n gleientiaid er mwyn adfer dyledion treth cyngor mewn modd effeithlon, effeithiol, teg a moesol.

Ein swyddogion gorfodi

Caiff ein holl swyddogion eu cyflogi gennym ni; nid ydym yn cyflogi swyddogion hunangyflogedig nac yn rhoi unrhyw waith allan ar gontract.

O ganlyniad i hynny, mae gennym weithlu ffyddlon ac ymroddgar, sydd wedi’u harchwilio’n llawn yn unol â safonau’r Weinyddiaeth Gyfiawnder ac wedi’u cymhwyso i’r safonau rheoleiddiol uchaf.

Gellir sicrhau awdurdodau lleol eu bod yn cael eu cynrychioli gan weithwyr proffesiynol sy’n trin dyledwyr â pharch a chwrteisi, ac yn gweithio mewn modd agored a thryloyw.

Sut mae Excel Civil Enforcement yn sicrhau canlyniadau yng nghyswllt ôl-ddyledion treth cyngor

Rydym yn gweithio’n agos gyda chleientiaid i gael y canlyniadau gorau posib. Rydym yn galluogi dyledwyr i gyfathrebu a chael mynediad effeithiol a chynhwysfawr at y data diweddaraf sydd ar gael.

Olrhain a thracio

Mae ein hadran olrhain fewnol yn defnyddio nifer o ddulliau i olrhain dyledwyr, gan gynnwys cyfryngau cymdeithasol, asiantaethau gwirio credyd a’r DVLA.

Llythyrau, galwadau ffôn ac ymweliadau

Rydym yn canolbwyntio ar ymgysylltu â dyledwyr cyn gynted â phosib gan ddefnyddio dulliau cyfathrebu rhagweithiol, gan gynnwys llythyrau, negeseuon testun a galwadau ffôn.

Rydym yn mabwysiadu gwyddoniaeth ymddygiadol ac yn defnyddio nifer o dechnegau procio i ysgogi pobl i gysylltu a thalu ar amser. Lle bo hynny’n angenrheidiol, byddwn yn canolbwyntio ar bresenoldeb yn ystod yr ‘oriau aur’ er mwyn gwneud y gorau o’r cyswllt a chyflymu’r broses adfer.

Dyledwyr agored i niwed a threth cyngor

Mae ein holl swyddogion gorfodi a’n staff swyddfa gefn wedi’u hyfforddi’n llawn i adnabod arwyddion dros y ffôn ac wyneb yn wyneb a allai awgrymu bod rhywun yn agored i niwed. Mae hyn yn sicrhau ein bod yn adnabod ac yn cynorthwyo’r unigolion sydd fwyaf mewn perygl yn ystod camau cynnar y broses.

Excel Civil Enforcement yw’r unig asiantaeth gorfodi sy’n darparu’r cymhwyster lefel 3 unigryw mewn Ymwybyddiaeth o Iechyd Meddwl a Phobl Agored i Niwed yng nghyswllt Arferion Gorfodi, sydd wedi’i ardystio gan CILEx a Sgiliau er Cyfiawnder.

Rydym hefyd yn cynnal gweithdai ar bobl agored i niwed, sydd ar gael i awdurdodau lleol sy’n gleientiaid.

Rhagor o wybodaeth

I gael rhagor o wybodaeth am ein gwasanaethau pwrpasol i awdurdodau lleol, cysylltwch â ni heddiw neu ein ffonio ni ar 0845 370 7775.

Mae rhagor o wybodaeth am ein gwasanaethau hyfforddi ar gael yma.

Excel Quick Pay – yr ap newydd i ddyledwyr

Gallwch lwytho’r ap i lawr a’i ddefnyddio am ddim. Mae wedi’i ddylunio i roi ffordd gyflym a hawdd i ddyledwyr reoli eu dyledion.

Dysgu mwy a lawrlwytho

Cofrestrwch i gael ein cylchlythyr

Cofrestrwch a byddwn yn anfon ein cylchlythyr misol atoch chi ynghyd â manylion am ein eLyfrau, gweminarau a digwyddiadau.

Tanysgrifio