Olrhain
Mae gennym dîm olrhain pwrpasol yn Excel ac rydym yn gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth ganolog a lleol, y proffesiwn cyfreithiol, cwmnïau cyllid a chyrff corfforaethol eraill.
Sut ydym yn olrhain
Rydym yn prosesu, yn crynhoi ac yn croesgyfeirio gwybodaeth er mwyn sicrhau cywirdeb. Rydym yn defnyddio nifer o ffynonellau, gan gynnwys asiantaethau gwirio credyd, cyfryngau cymdeithasol, cofnodion y DVLA, y gofrestr etholiadol, Tŷ’r Cwmnïau, y Gofrestrfa Tir a llawer mwy o ffynonellau dibynadwy eraill sydd ar gael i ni pan fyddwn yn cynnal gwaith olrhain.
Mae ein gwasanaeth olrhain yn seiliedig ar waith ymchwil trylwyr. Byddwn yn ymchwilio o bob manylyn ac fe fyddwn yn croesgyfeirio a chysylltu ffynonellau er mwyn sicrhau bod gennym yr wybodaeth ddiweddaraf a mwyaf cywir ynglŷn â’r pwnc.
Adrodd
Fel rhan o’n gwasanaeth cyflym, rydym yn darparu adroddiadau olrhain manwl i gleientiaid, beth bynnag fo’r canlyniad.
GDPR
Rydym yn cymryd ein gwaith o gydymffurfio â’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) o ddifrif ac mae gennym weithdrefnau cadarn ar waith.
Mynd ati i olrhain
Ffoniwch ni ar 0330 363 9988 neu fynd i’n tudalen cysylltu â ni.