Archwilio eiddo
Efallai y bydd angen archwilio eiddo gwag am amryw o resymau. Efallai y bydd angen cynnal archwiliad os ydych chi wedi cael gwybod bod eiddo, neu fwy nag un eiddo yn wag, ac fe fydd Excel Civil Enforcement yn mynd yno i asesu’r sefyllfa yn unol â’ch cyfarwyddyd. Bydd hyn yn eich galluogi chi i gofnodi’r gostyngiadau a’r eithriadau a all fod yn berthnasol i’r eiddo.
Rheswm arall dros archwilio eiddo yw gwneud yn siŵr bod yr ardreth fusnes gywir mewn grym, er enghraifft, os yw defnydd eiddo wedi newid, fod ganddo ryddhad ardrethi busnesau bach neu’ch bod yn amau bod ardrethi busnes yn cael eu hosgoi. Gallwn gasglu a chofnodi gwybodaeth a’i throsglwyddo’n electronig er mwyn eich cynorthwyo â’ch proses gwneud penderfyniadau.
Archwilio eiddo preswyl a masnachol
Mae’r gwasanaeth hwn ar gael yng nghyswllt eiddo preswyl a masnachol ac, oherwydd bod osgoi ardrethi busnes a threth cyngor ar frig yr agenda mewn awdurdodau lleol, mae hwn yn wasanaeth cynhyrchiol sy’n casglu mwy o arian ar eich rhan. Gallwn wirio nifer yr unigolion nad ydynt yn ddibynyddion sy’n byw mewn cartrefi neu ba fath o fusnes sy’n weithredol mewn eiddo etifeddol.
Adroddiadau cywir
Byddwn yn sicrhau ein bod yn casglu tystiolaeth ac yn darparu adroddiadau manwl gywir er mwyn rhoi manylion yr archwiliad i chi. Byddwn yn cadw llygad am bethau fel biniau llawn, a thystiolaeth bod post yn cael ei anfon i’r cyfeiriad; gan gynnwys nodi at bwy mae’r post wedi’i gyfeirio. Byddwn yn cadw llygad am ffenestri ar agor neu arwyddion eraill bod rhywun yn meddiannu’r safle. Os bydd angen, gallwn gynnal sawl archwiliad fel rhan o fwy nag un ymweliad.
Rydym hefyd yn ymdrin â chartrefi ac adeiladau newydd, gan wirio cynnydd a darparu adroddiadau manwl.
Rhagor o wybodaeth
Mae ein holl wasanaethau yn cael eu darparu’n genedlaethol. Cysylltwch â ni ar 01792 466 771 (opsiwn 2) neu ddefnyddio ein ffurflen gysylltu i gael rhagor o wybodaeth.