Olrhain

Yn Excel, mae gennym dîm olrhain pwrpasol i ddod o hyd i ffoaduriaid. Er mwyn sicrhau ein bod yn cydymffurfio â deddfwriaeth diogelu data, dim ond os oes offeryn cyfreithiol (e.e. gwrit, gwarant neu orchymyn llys arall) y byddwn yn cynnal ymholiadau olrhain.

Sut rydym yn olrhain

Rydym yn prosesu, yn coladu ac yn croesgyfeirio gwybodaeth i sicrhau cywirdeb. Rydym yn defnyddio nifer o ffynonellau gan gynnwys nifer o asiantaethau archwilio credyd, cyfryngau cymdeithasol, lle bo’n bosibl, y gofrestr etholiadol, Tŷ’r Cwmnïau a ffynonellau dibynadwy eraill sydd ar gael i ni wrth olrhain.

Mae ein gwasanaeth olrhain personol yn seiliedig ar ymchwiliadau deallus synhwyrol, sy’n cyfuno technoleg ac offer data ag arbenigedd proffesiynol dibynadwy i sicrhau bod y wybodaeth ddiweddaraf a mwyaf cywir gennym.

Diogelu data/GDPR

Rydym yn cymryd diogelu data a chydymffurfio â GDPR o ddifrif ac mae gennym weithdrefnau cadarn ar waith.

I wneud gwaith olrhain

I gael rhagor o wybodaeth am sut gall ein gwasanaethau olrhain dyledwyr helpu, ffoniwch ni nawr ar 0330 363 9988 neu defnyddiwch ein tudalen cysylltu â ni.

Excel Quick Pay – yr ap newydd i ddyledwyr

Gallwch lwytho’r ap i lawr a’i ddefnyddio am ddim. Mae wedi’i ddylunio i roi ffordd gyflym a hawdd i ddyledwyr reoli eu dyledion.

Dysgu mwy a lawrlwytho

Cofrestrwch i gael ein cylchlythyr

Cofrestrwch a byddwn yn anfon ein cylchlythyr misol atoch chi ynghyd â manylion am ein eLyfrau, gweminarau a digwyddiadau.

Tanysgrifio