Moeseg a llywodraethu
Mae Excel Civil Enforcement wedi ymrwymo i weithio mewn modd moesegol gyda’n rhanddeiliaid bob amser: dyledwyr, cleientiaid, trydydd partïon, rheoleiddwyr a chyflenwyr. Yn yr adran hon, gallwch ddarllen crynodeb o’n prif bolisïau, yn ogystal â’n dull o weithio gyda dyledwyr agored i niwed.
Cefnogi elusennau
Mae’r cwmni yn cefnogi mentrau elusennol ledled y cwmni yn rheolaidd, fel pan aeth aelodau o staff Excel a High Court Enforcement Group i fyny’r Wyddfa a chodi bron i £3,500 at Marie Curie UK, yn ogystal â llawer o fentrau sy’n cael eu harwain gan staff.
Mae’r rhain wedi cynnwys gweithwyr yn rhedeg marathon Llundain i godi arian at elusennau, ac yn ddiweddar bu pedwar aelod o staff a dau gleient dewr yn abseilio i lawr Tŵr Spinnaker yn Portsmouth i godi arian at Guardian Angels, sef elusen sy’n helpu plant sydd wedi colli rhiant.
Y Weinyddiaeth Amddiffyn
Ni yw’r unig asiantaeth gorfodaeth sy’n bartner hyfforddi y mae Partneriaeth Pontio Gyrfaoedd (CTP) y Weinyddiaeth Amddiffyn yn ei ffafrio. Rydym hefyd yn bartneriaid tymor hir y CTP ac yn ei chefnogi er mwyn annog cynhwysiant cymdeithasol. Rydym hefyd yn recriwtio personél o blith cyn-weithwyr y lluoedd arfog i fod yn swyddogion gorfodi yn aml.
Hysbysu a dysgu
Rydym yn darparu gwybodaeth i ddyledwyr er mwyn ateb eu cwestiynau am y broses orfodi, sut mae lleihau ffioedd gorfodi i’r graddau mwyaf posibl ac o ble gallant gael cyngor. Rydym yn darparu sawl ffordd o dalu i ddyledwyr er mwyn gwneud hyn mor hawdd â phosibl iddyn nhw.
Ar gyfer ein cleientiaid a gweithwyr proffesiynol mewn awdurdodau lleol yn gyffredinol, rydym yn anfon cylchlythyr sy’n cynnwys gwybodaeth ac arweiniad, rydym yn cynnal gweminarau rheolaidd – fel arfer gyda gwestai arbennig yn trafod pwnc penodol – ac rydym yn darparu rhaglen o gymwysterau hyfforddiant a gweithdai â marc ansawdd.
Ni yw’r unig asiantaeth gorfodi sydd hefyd yn ganolfan asesu (addysg) gydnabyddedig sy’n darparu cymwysterau lefel 2 a lefel 3 a hyfforddiant â marc ansawdd. Caiff ein cymwysterau eu hardystio gan y Chartered Institute of Legal Executives (CILEx). Mae ein gweithdai wedi derbyn marc ansawdd gan Agored Cymru, sef un o gyrff dyfarnu rheoledig Cymwysterau Cymru.
Gwobrau
Mae Grŵp Gorfodi’r Uchel Lys ac Excel Civil Enforcement wedi ennill neu wedi cyrraedd y cymeradwyaeth uchel yn y gwobrau hyn yn y diwydiant:
- Gwobrau Perfformiad IRRV 2018, Rhagoriaeth ym maes Datblygu Staff - ENILLYDD
- Gwobrau Credyd Prydain CICM 2018, Gwobr Effaith Dysgu a Datblygu - ENILLYDD
- Gwobrau Perfformiad IRRV 2018, Rhagoriaeth ym maes Gorfodi – CYMERADWYAETH UCHEL
- Gwobrau Cyfraith Fodern 2018 – CYMERADWYAETH UCHEL