Pobl agored i niwed

Mae ein staff wedi’u hyfforddi i adnabod, rheoli a chefnogi dyledwyr sydd â phroblemau iechyd meddwl ac yn agored i niwed, ac maent yn defnyddio’r dull ‘TEXAS’ i wneud hynny. Mae ein swyddogion gorfodi, ein timau llesiant a’n staff gwasanaethau cwsmeriaid wedi cael hyfforddiant ar ymwybyddiaeth o iechyd meddwl a phobl agored i niwed ym maes gorfodi.

I ni, ystyr person agored i niwed yw rhywun nad yw’n gallu delio â’i faterion ei hun pan fydd cwmni’n cymryd camau gweithredu yn ei erbyn. Rydym wedi mabwysiadu gweithdrefn syml i ohirio’r broses orfodi ar gyfer y bobl hyn tra bydd hawliadau’n cael eu hystyried yn ofalus.

Safonau Cenedlaethol

Mae Cymryd Rheolaeth o Nwyddau: Rheoliadau Cenedlaethol 2014 yn nodi y gall y categorïau canlynol o bobl fod yn agored i niwed:

  • Pobl hŷn
  • Pobl anabl
  • Pobl â salwch meddwl
  • Pobl sy’n ddifrifol wael
  • Pobl sydd newydd gael profedigaeth
  • Teuluoedd â rhieni sengl
  • Menywod beichiog
  • Pobl ddi-waith
  • Pobl sy’n amlwg yn ei chael yn anodd deall, siarad neu ddarllen Cymraeg neu Saesneg

Nid yw bod yn agored i niwed yn fater du a gwyn; rhaid i ni edrych ar bob unigolyn sy’n honni ei fod yn agored i niwed ac edrych ar yr amgylchiadau unigol, gan gofio y gall bod yn agored i niwed fod yn rhywbeth dros dro.

Y mae hefyd yn bwysig nodi mai amgylchiadau lle gallai’r dyledwr fod yn agored i niwed yw’r rhain; ni ddylid cymryd yn ganiataol fod unrhyw un sy’n dod o dan y categorïau hyn yn agored i niwed.

Excel Quick Pay – yr ap newydd i ddyledwyr

Gallwch lwytho’r ap i lawr a’i ddefnyddio am ddim. Mae wedi’i ddylunio i roi ffordd gyflym a hawdd i ddyledwyr reoli eu dyledion.

Dysgu mwy a lawrlwytho

Cofrestrwch i gael ein cylchlythyr

Cofrestrwch a byddwn yn anfon ein cylchlythyr misol atoch chi ynghyd â manylion am ein eLyfrau, gweminarau a digwyddiadau.

Tanysgrifio