We value your privacy. This website uses cookies to ensure you get the best experience. Do you agree to our cookie policy?
Gwybodaeth amdanom ni
Sylfaenwyd Excel Civil Enforcement yn 1991 ac mae’n darparu gwasanaethau gorfodi, casglu a gwasanaethau cysylltiedig arbennig i awdurdodau lleol ac adrannau llywodraeth ganolog.
Rydym yn cydnabod pwysigrwydd casglu refeniw ac yn helpu ein cleientiaid i adfer mwy.
Gyda’i gilydd, mae gan gyfarwyddwyr Excel bron i 200 mlynedd o brofiad, gan roi’r syniadau a’r profiad iddynt allu gyrru’r busnes yn ei flaen. Maent hefyd yn meddu ar ddealltwriaeth a gwybodaeth sy'n eu galluogi nhw i gefnogi eu cleientiaid mewn ffordd effeithiol ac effeithlon.
Mae rhai o gyfarwyddwyr Excel wedi dal swyddi fel llywydd y Gymdeithas Gorfodaeth Sifil, cadeirydd y Gymdeithas Swyddogion Gorfodi'r Uchel Lys ac is-gadeirydd grŵp gorfodi diddordeb arbennig Cymdeithas Parcio Prydain, ac mae tri rheolwr yn eistedd ar fyrddau gweithredol rhanbarthol IRRV.
Rydym yn gwasanaethu’r wlad gyfan yng nghyswllt adfer y dyledion canlynol ac mae gennym gyfraddau adfer sy'n gyda’r gorau yn y diwydiant.
Pam defnyddio Excel?
Rydym yn gwasanaethu’r wlad gyfan gyda chanolfan gwasanaethau cwsmeriaid yn y DU a chyfleusterau talu dros y rhyngrwyd a thros y ffôn 24/7.
- Mae gennym un o’r timau lles mwyaf cymwys yn y diwydiant
- Mae gan staff ein gwasanaeth cwsmeriaid gymhwyster Rheoli Nwyddau Lefel 2 ac maent wedi cael hyfforddiant achrededig mewn ymwybyddiaeth o bobl agored i niwed ac iechyd meddwl
- Rydym yn defnyddio’r dechnoleg symudol ddiweddaraf, gan gynnwys camerâu ffrydio byw sy’n cael eu gwisgo ar y corff, dyfeisiau sy’n defnyddio GPS i olrhain a thechnoleg ANPR
- Mae ein tîm TG mewnol byth a hefyd yn datblygu ac yn ymchwilio i dechnolegau newydd fel apiau adrodd o bell, apiau dyledwyr a gwe-sgwrsio
Beth sy’n ein gwneud ni’n wahanol?
- Ein cyfraddau casglu rhagorol: mae data a gasglwyd gan un o gleientiaid y llywodraeth yn dangos bod perfformiad Excel yn rhagori ar berfformiad darparwyr eraill yn barhaus
- Mae ein swyddogion gorfodi yn weithwyr sy'n cael eu cyflogi – nid ydym yn is-gontractio swyddogion hunangyflogedig
- Mae pob aelod o staff, nid swyddogion gorfodi yn unig, yn cael
hyfforddiant ar orfodi a phobl agored i niwed ac mae ganddynt gymwysterau
gorfodi
- Rydym yn buddsoddi’n helaeth yn ein staff ac yn llwyddo i ddal gafael ar 98% ohonynt felly mae gennym weithlu profiadol a medrus iawn
- Rydym yn darparu hyfforddiant a gweithdai â nod ansawdd
- Rydym yn cefnogi Cyfamod y Lluoedd Arfog, gan gyflogi llawer o staff blaenorol y gwasanaeth. Hefyd, rydym yn ddarparwr hyfforddiant cymeradwy ar gyfer Partneriaeth Newid Gyrfa y Weinyddiaeth Amddiffyn
Ein haddewid
Mae cyfarwyddwyr a staff Excel wedi ymrwymo i gyflawni ein gwasanaethau fel a ganlyn:
- I’r safonau moesegol a phroffesiynol uchaf
- Mewn ffordd agored a thryloyw
- Mewn ffordd sy'n gyfrifol yn gymdeithasol
- Gydag atebolrwydd llwyr dros ein gweithredoedd i gyd
Gwobrau
Mae Grŵp Gorfodi’r Uchel Lys ac Excel Civil Enforcement wedi ennill neu wedi cyrraedd y cymeradwyaeth uchel yn y gwobrau hyn yn y diwydiant:
- Gwobrau Perfformiad IRRV 2018, Rhagoriaeth ym maes Datblygu Staff - ENILLYDD
- Gwobrau Credyd Prydain CICM 2019, Defnydd Gorau o Dechnoleg Credyd - ENILLYDD
- Gwobrau Credyd Prydain CICM 2018, Gwobr Effaith Dysgu a Datblygu - ENILLYDD
- Gwobrau Cyfraith Fodern 2019, Ymrwymiad Rhagorol i Hyfforddiant– ENILLYDD
- Gwobrau Perfformiad IRRV 2018, Rhagoriaeth ym maes Gorfodi – CYMERADWYAETH UCHEL