Ymrwymiad i'r Lluoedd Arfog

Mae Excel yn croesawu staff y Lluoedd Arfog, eu partneriaid a’r rheini sydd â chefndir milwrol i’n sefydliad.

Mae Cynllun Cydnabod Cyflogwyr y Weinyddiaeth Amddiffyn yn cydnabod cyflogwyr sydd wedi rhoi cefnogaeth eithriadol i gymuned y lluoedd arfog ac amddiffyn drwy fynd y tu hwnt i’w haddewidion cyfamod.

Yn Excel, rydyn ni wedi ymrwymo i anrhydeddu Cyfamod y Lluoedd Arfog a chefnogi Cymuned y Lluoedd Arfog. Rydyn ni’n cydnabod gwerth Personél y Lluoedd Arfog, Aelodau Arferol a Milwyr wrth Gefn, Cyn-filwyr a theuluoedd milwrol i’n busnes ac i’n gwlad.

Ar hyn o bryd, mae gennym wobr Arian Cynllun Cydnabod Cyflogwyr. Rydyn ni hefyd:

Yn Ddarparwr Dysgu Cymeradwy yn y cynllun Credyd Dysgu Uwch – High Court Enforcement Group

Yn ddarparwr hyfforddiant sy’n cael ei ffafrio ar gyfer Partneriaeth Pontio Gyrfa y Weinyddiaeth Amddiffyn

Fel rhan o Gyfamod y Lluoedd Arfog, rydyn ni’n addo:

  • Glynu wrth egwyddorion allweddol Cyfamod y Lluoedd Arfog
  • Cydnabod gwerth staff milwrol a’r manteision maen nhw’n eu cynnig i’n busnes
  • Hybu ceisiadau gan gyn-aelodau o’r lluoedd arfog
  • Hyrwyddo’r ffaith ein bod yn sefydliad sy’n gyfeillgar i’r lluoedd arfog
  • Gwarantu cyfweliad i gyn-aelodau’r lluoedd arfog [a’r rhai sy’n gadael] er mwyn iddyn nhw gael gwell siawns o gael gwaith
  • Cynnal polisïau i gefnogi lluoedd wrth gefn a gwirfoddolwyr sy’n oedolion yn y lluoedd arfog
  • Parhau â’n gwaith gyda’r Bartneriaeth Pontio Gyrfa i sefydlu llwybr cyflogaeth wedi’i deilwra ar gyfer y rheini sy’n gadael y lluoedd arfog

Excel Quick Pay – yr ap newydd i ddyledwyr

Gallwch lwytho’r ap i lawr a’i ddefnyddio am ddim. Mae wedi’i ddylunio i roi ffordd gyflym a hawdd i ddyledwyr reoli eu dyledion.

Dysgu mwy a lawrlwytho

Cofrestrwch i gael ein cylchlythyr

Cofrestrwch a byddwn yn anfon ein cylchlythyr misol atoch chi ynghyd â manylion am ein eLyfrau, gweminarau a digwyddiadau.

Tanysgrifio