Ap Excel Quick Pay i ddyledwyr
Gallwch lwytho’r ap i lawr a’i ddefnyddio am ddim. Mae wedi’i ddylunio i roi ffordd gyflym a hawdd i ddyledwyr reoli eu dyledion.
Llwythwch yr ap i lawr
Mae’r ap Excel Quick Pay i ddyledwyr nawr yn fyw ac ar gael o’r siopau canlynol:

Nodweddion yr ap Excel Quick Pay i ddyledwyr
Mae’r ap hwn yn llawn nodweddion ac yn rhoi popeth ar flaenau eich bysedd, gyda:
- Cysylltiad uniongyrchol i’r porth talu gan ddefnyddio cod cyfeirio unigryw
- Hysbysiadau i ffôn symudol y dyledwr i’w atgoffa am y taliadau sydd i ddod
- Yr wybodaeth ddiweddaraf am y cyfanswm sy’n ddyledus, manylion am y trefniant talu a chyfanswm y balans sy’n weddill
- Defnyddio lliw gwyrdd ar gyfer y cyfrifon sydd wedi gwneud eu taliadau hyd yma a lliw coch ar gyfer y rheini sy’n hwyr yn talu
- Dolenni i sefydliadau sy’n rhoi cyngor am ddyledion i gael gwybodaeth, cyngor ac arweiniad
Os oes gan y dyledwr fwy nag un achos gyda Swyddog Gorfodi Sifil Excel, gall y dyledwr ychwanegu achosion eraill yn hawdd drwy roi cyfeirnod yr achos. Bydd hyn yn rhoi trosolwg llawn o’u dyledion iddynt mewn un lle.
GDPR a diogelu data
Mae’r ap yn ddiogel – mae’n rhaid i’r dyledwr roi cyfeirnod ei achos er mwyn cofrestru, ac ar ôl cofrestru, mae’n rhaid iddo gadarnhau ei gyfeiriad e-bost i gael mynediad i’r cyfrif.
Mae GDPR a phreifatrwydd wedi’u rhagosod. Mae’r holl ddata yn cael ei gadw’n ddiogel ac nid ydym yn cadw lleoliad y defnyddiwr.

