Symud teithwyr

Rydym yn cynnig symud teithwyr o dan gyfraith gyffredin a gwrit meddiant yr Uchel Lys. Mae hyn yn cynnwys archwilio safleoedd yn drylwyr a chynnal asesiadau risg, yn ogystal â chyflwyno cynnig manwl sy’n cynnwys cyngor ynglŷn ag a oes angen gwrit meddiant neu a fyddai modd defnyddio cyfraith gyffredin i symud y teithwyr.

Symud o dan gyfraith gyffredin

Mae gennym swyddogion gorfodi ardystiedig ym mhob cwr o’r wlad i gyflwyno gorchymyn troi allan, a fydd yn rhoi 24 awr i’r teithwyr symud o dir neu eiddo. Bydd y gorchymyn yn cael ei gyflwyno i’r tresmaswyr neu’n cael ei adael mewn man amlwg ar y safle os nad oes neb yno i dderbyn y gorchymyn.

Os bydd y tresmaswyr yn dal yn meddiannu eich tir ar ôl 24 awr, byddwn yn dechrau rhoi gweithdrefnau troi allan ar waith. Byddwn yn defnyddio grym rhesymol os bydd hynny’n angenrheidiol.

Symud o dan writ meddiant

Rydym yn argymell defnyddio gwrit meddiant os oes grŵp mawr o deithwyr neu eich bod yn rhagweld y bydd problemau, fel niwed i bobl neu ddifrod i eiddo. Mantais cael gwrit meddiant yw bod rhaid i’r heddlu gefnogi’r writ.

Caiff y ddyletswydd hon ei hamlinellu yn Neddf y Llysoedd (2003); Atodlen 7, Paragraff 5, sy’n nodi:

Ar gais:

  • Swyddog gorfodi neu
  • Unigolyn sy’n gweithredu o dan awdurdod y swyddog,

Mae dyletswydd ar bob cwnstabl i gynorthwyo’r swyddog neu’r unigolyn sy’n cyflawni’r writ yn unol ag Adran 10 o Ddeddf Cyfraith Droseddol (1977), sydd hefyd yn ei gwneud yn drosedd rhwystro swyddog gorfodi rhag cyflawni Gwrit yr Uchel Lys.

Rydym yn gweithio gyda nifer o awdurdodau lleol a thirfeddianwyr preifat a byddwn bob amser yn cynllunio a chynnal asesiadau risg ac yn darparu adroddiadau ar beth yn union sy’n bresennol, gan gynnwys plant a phobl agored i niwed, er mwyn gallu dilyn y gweithdrefnau cywir.

Rhoi cyfarwyddyd

Caiff ein gwasanaethau symud teithwyr eu darparu gan ein rhiant-gwmni, High Court Enforcement Group, sef y cwmni annibynnol mwyaf o Swyddogion Gorfodi Awdurdodedig yr Uchel Lys.

Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r tîm ar 01792 466 771 (opsiwn 2), neu ddefnyddio’r ddolen isod i roi cyfarwyddyd i ni ar unwaith.

Excel Quick Pay – yr ap newydd i ddyledwyr

Gallwch lwytho’r ap i lawr a’i ddefnyddio am ddim. Mae wedi’i ddylunio i roi ffordd gyflym a hawdd i ddyledwyr reoli eu dyledion.

Dysgu mwy a lawrlwytho

Cofrestrwch i gael ein cylchlythyr

Cofrestrwch a byddwn yn anfon ein cylchlythyr misol atoch chi ynghyd â manylion am ein eLyfrau, gweminarau a digwyddiadau.

Tanysgrifio