Ardrethi annomestig

Ardrethi annomestig yw’r ardrethi sy’n berthnasol i unrhyw adeilad nad yw’n annedd preswyl. Drwy gyflwyno proses cadw ardrethi, bydd yr incwm sy’n cael ei gasglu a’i gadw gennych chi fel awdurdod lleol yn cynyddu, oherwydd bydd llai ohono yn cael ei basio yn ôl i’r llywodraeth ganolog. Mae hyn yn golygu y bydd angen talu sylw a chymryd mwy o ofal er mwyn sicrhau eich bod yn casglu cymaint â phosibl i sicrhau refeniw.

Tîm ardrethi busnes arbenigol

Yn Excel Civil Enforcement, mae gennym dîm arbennig sydd wedi’i hyfforddi ym mhob agwedd ar ardrethi annomestig ac rydym yn sicrhau ein bod yn gwybod yr wybodaeth ddiweddaraf am y dyfarniadau diweddaraf er mwyn gallu cyflawni’r tasgau cyn gorfodi canlynol ar eich rhan mewn modd effeithlon ac effeithiol:

  • Archwilio gwefannau cwmnïau
  • Trefnu ymweliadau â mwy nag un safle busnes ar yr un pryd lle bo hynny’n briodol
  • Monitro a gwirio cyfrifon cyfryngau cymdeithasol am gyfrifon dan enw arall
  • Olrhain a thracio drwy ddefnyddio nifer o adnoddau, gan gynnwys y DVLA, asiantaethau gwirio credyd a chyfryngau cymdeithasol
  • Blaenoriaethu achosion sydd wedi’u hatgyfeirio a mynd i’r afael â nhw, yn enwedig lle mae bygythiad bod y dyledwr am ddianc neu, fel arall, ddechrau achos ansolfedd
  • Chwilio am gyfarwyddwyr, monitro hysbysiadau a newidiadau o ran statws y cyfarwyddwr a’r cwmni er mwyn canfod arwyddion cynnar o achosion ansolfedd a diddymu

Gorfodi

Ar ôl i orchymyn dyled gael ei gyhoeddi, gallwn gymryd camau gorfodi. Mae ein holl swyddogion wedi’u cyflogi’n llawn; bydd hyn yn rhoi tawelwch meddwl i chi oherwydd byddwn yn gallu rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am eich achosion i chi mewn amser real.

Hyfforddiant

Mae gennym hyfforddiant mewnol o’r radd flaenaf i sicrhau bod gan ein swyddogion yr wybodaeth ddiweddaraf am yr holl ddeddfwriaethau cyfredol. Mae’r hyfforddiant rydym yn ei gynnig ar gael i awdurdodau lleol a gallwch gael rhagor o wybodaeth amdano yn ein hadran hyfforddiant.

Pobl agored i niwed

Mae ein holl swyddogion gorfodi wedi’u hyfforddi i adnabod ac atgyfeirio dyledwyr agored i niwed mewn modd priodol. Byddwn bob amser yn rhoi gwybod i chi os ydym yn amau bod dyledwr yn agored i niwed.

Excel Quick Pay – yr ap newydd i ddyledwyr

Gallwch lwytho’r ap i lawr a’i ddefnyddio am ddim. Mae wedi’i ddylunio i roi ffordd gyflym a hawdd i ddyledwyr reoli eu dyledion.

Dysgu mwy a lawrlwytho

Cofrestrwch i gael ein cylchlythyr

Cofrestrwch a byddwn yn anfon ein cylchlythyr misol atoch chi ynghyd â manylion am ein eLyfrau, gweminarau a digwyddiadau.

Tanysgrifio