We value your privacy. This website uses cookies to ensure you get the best experience. Do you agree to our cookie policy?
Fforffedu
Rydym yn cynnig gwasanaethau cenedlaethol ar gyfer fforffedu les masnachol drwy ein rhiant-gwmni, High Court Enforcement Group, sef y cwmni annibynnol mwyaf o Swyddogion Gorfodi Awdurdodedig yr Uchel Lys.
Fforffedu les
Gellir fforffedu les masnachol os oes problem â’r denantiaeth a bod amodau’r les wedi’u torri. Y rheswm mwyaf cyffredin dros fforffedu yw methu talu rhent, ond mae gennych chi hawl fforffedu am achosion eraill o dorri amodau’r les hefyd, gan gynnwys isosod yr eiddo heb ganiatâd neu addasu’r eiddo.
Os byddwch yn arfer eich hawl i fforffedu o dan unrhyw gyfamod oni bai am fethu talu rhent, rhaid i chi roi hysbysiad adran 146 i’r tenant. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am adran 146 a’r manylion y bydd angen i chi eu darparu yma:
Gellir fforffedu oherwydd bod tenant wedi methu talu rhent ar ôl i’r arian fod yn ddyledus am y cyfnod a nodir yn eich les, sef 21 diwrnod fel arfer, ac fe ddylech edrych ar y les i wirio’r telerau a nodir ynddo yng nghyswllt fforffedu.
Drwy ofyn i High Court Enforcement Group fforffedu’r les, bydd swyddogion gorfodi’r Grŵp yn mynd i mewn i’r eiddo’n heddychlon, gyda chymorth saer cloeon. Yn ddibynnol ar hanes yr achos, gallwn rybuddio’r heddlu hefyd, os byddwn yn rhagweld y bydd trwbl neu y bydd rhywbeth yn tarfu ar yr heddwch.
Cysylltwch â ni heddiw i ofyn i ni adfer meddiant eich eiddo masnachol.
Diogelu’r eiddo ar ôl fforffedu
Ar ôl fforffedu, byddwn yn newid y cloeon ac yn dychwelyd yr eiddo i chi, yn ogystal â darparu cyngor a chymorth os bydd yr eiddo yn aros yn wag er mwyn sicrhau nad oes sgwatwyr na thresmaswyr yn ei feddiannu.
Hysbysiadau camwedd
Gallwn hefyd eich cynorthwyo ag eitemau y mae’r tenant wedi’u gadael ar ôl. Byddwn yn cyflwyno’r hysbysiadau cywir a’u gosod mewn safle amlwg er mwyn rhoi digon o amser i’r nwyddau gael eu casglu. Os na fydd hyn yn ysgogi’r tenantiaid i gasglu’r eiddo, byddwn yn gosod hysbysiad arall yn nodi bod y landlord yn bwriadu gwerthu’r nwyddau os na fyddant yn cael eu casglu o fewn yr amser a nodir.
Sut mae rhoi cyfarwyddyd
Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r tîm ar 01792 466 771 (opsiwn 2), neu ddefnyddio’r ddolen isod i roi cyfarwyddyd i ni ar unwaith.