Troi tresmaswyr/protestwyr allan
Mae ein rhiant-gwmni, High Court Enforcement Group, yn darparu ystod lawn o wasanaethau adfer eiddo ar gyfer awdurdodau lleol, yn ogystal â landlordiaid ac asiantaethau masnachol.
Mae gan HCE Group brofiad helaeth o symud tresmaswyr a phrotestwyr o dir ac eiddo masnachol. Gwneir hyn o dan writ meddiant yr Uchel Lys mewn achosion lle caiff sgwatwyr eu symud o eiddo, ac o dan writ neu gyfraith gyffredin mewn achosion yng nghyswllt tir.
Fel Grŵp, rydym yn gweithio mewn partneriaeth â’r heddlu ac mae gennym yr awdurdod i ddefnyddio grym arestio. Rydym yn gweithredu yn unol â fframwaith Cyfraith Prydain ac Ewrop i ddarparu ateb cadarn a theg i’ch anghydfod yng nghyswllt tir.
Mae ein darpariaeth genedlaethol yn caniatáu i ni gael mynediad at lawer iawn o arbenigwyr wedi’u hyfforddi ac adnoddau sylweddol, a’u rhoi ar waith er mwyn mynd i’r afael â’ch anghydfodau a’ch gofynion penodol. Mae gennym brawf o lwyddiant blaenorol o ran sicrhau bod meddianwyr anghyfreithlon yn cael eu symud mewn modd diogel, llwyddiannus a moesegol – hyd yn oed dan yr amgylchiadau mwyaf heriol.
Rhoi cyfarwyddyd
Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r tîm ar 03330 031919, neu ddefnyddio’r ddolen isod i roi cyfarwyddyd i ni ar unwaith.
Troi allan arbenigol a phroffil uchel
Lle bo protestwyr wedi meddiannu safle a'u bod wedi cymryd camau i'w gwneud mor anodd a phosibl eu symud, mae gan High Court Enforcement Group dîm arbenigol ar gyfer yr achosion hyn - sef y National Eviction Team.
Mae ganddynt swyddogion gorfodi arbenigol sydd â sgiliau ym mhob agwedd ar symud protestwyr, gan gynnwys:
- Pobl sy'n cloi eu hunain yn sownd i bethau
- Protestiadau ar ben toeau a choed
- Twnneli a phob math o weithgarwch o dan y ddaear
- Pob math o weithgarwch mewn mannau uchel
- Rhwystrau
- Diogelwch ar ôl troi pobl allan
Mae'r National Eviction Team wedi gweithio gyda nifer o awdurdodau lleol i symud protestwyr a theithwyr, gan gynnwys Dale Farm yn 2011.