We value your privacy. This website uses cookies to ensure you get the best experience. Do you agree to our cookie policy?
National Eviction Team
Mae National Eviction Team (yr hen UK Evict) yn arbenigwyr ar droi protestwyr, sgwatwyr a theithwyr allan o’u cartrefi. Ffurfiwyd y tîm yn 1995 ac mae’n rhan o Grŵp Gorfodi’r Uchel Lys.
Hanes llwyddiannus
Mae National Eviction Team wedi delio ac yn parhau i ddelio â mwy o achosion o droi tresbaswyr, protestwyr amgylcheddol digroeso a sgwatwyr allan o’u cartrefi nag unrhyw dîm arall yn y wlad. Mae gennym weithlu mawr iawn sy'n ein galluogi ni i reoli'r protestiadau amgylcheddol mwyaf hyd yn oed.
Rydym yn cwrdd â dyddiadau cau ac yn mynd y tu hwnt i hynny'n gyson er mwyn darparu gwasanaeth diogel ac effeithiol i’n cleientiaid wrth droi tresbaswyr a phrotestwyr allan, gan sicrhau bod y safle'n ddiogel wedyn er mwyn atal yr un peth rhag digwydd eto.
Timau arbenigol
Mae ein pobl wedi’u hyfforddi'n llawn ac mae ganddynt offer arbenigol, felly rydym yn mynd i unrhyw sefyllfa i sicrhau bod y gwaith yn cael ei wneud. Mae gennym flynyddoedd o brofiad ac rydym wedi dod ar draws bron iawn pob sefyllfa bosib. Rydym yn hynod fedrus wrth gael gwared â phroblemau.
Rheoli enw da
Rydym yn ochelgar ac yn gweithio i sicrhau ein bod ni’n troi pobl allan gan roi gofal ac ystyriaeth ddyladwy i’r rheini sy'n bresennol ac i reoli eich enw da, gan osgoi gwrthdaro a lleihau tensiynau pan fo hynny'n bosib. Mae gennym gofnod 100% o ddiogelwch.
Rheoli
Mae rheoli yn rhan hanfodol o’r ffordd rydym yn gweithio - ar y safle, gyda dull gweithredu teg, mesuredig a disgybledig, ac yn ein cynlluniau gweithredol a’n paratoadau rheoli risgiau. Ni yw darparwr diffiniol gwasanaethau troi allan, boed fawr neu fach.