Polisi preifatrwydd

Ein haddewid preifatrwydd

Mae Excel Civil Enforcement Limited yn parchu eich hawliau preifatrwydd ac mae wedi ymrwymo i ddiogelu eich data personol.

Beth fydd hyn yn ei olygu i chi?

Mae ein hysbysiad preifatrwydd yn rhoi gwybodaeth i chi am sut rydym ni, Excel Civil Enforcement Limited, yn defnyddio eich data personol i ddarparu ein gwasanaethau, sy’n cynnwys gorfodi gwritiau a gwarantau rheoli a meddiannu, Gorchmynion Prynu Gorfodol, cyfarwyddiadau dan y gyfraith gyffredin i adennill meddiant tir ac eiddo, gwasanaethau olrhain a chasglu dyledion cyffredinol ar gyfer ein cleientiaid.

Bydd Excel Civil Enforcement Limited, wrth ddarparu’r gwasanaethau hyn, yn casglu ac yn defnyddio gwybodaeth bersonol yn unig sy’n berthnasol i’r gwaith rydym yn ei wneud ac a fydd yn cael ei rheoli, ei storio a’i phrosesu yn unol â’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR), sut bynnag y caiff ei chasglu, ei chofnodi a’i defnyddio; boed ar bapur, ar ffurf cyfryngau electronig (e.e. ar system gyfrifiadurol), neu ei chofnodi drwy ddulliau eraill.

Rydym yn ystyried bod trin gwybodaeth bersonol yn gyfreithlon ac yn gywir gan y cwmni yn hanfodol er mwyn cynnal hyder ein cleientiaid; felly rydym yn rheoli ac yn prosesu gwybodaeth bersonol yn gyfreithlon ac yn gywir.

Gallwch gysylltu â Swyddog Diogelu Data’r Grŵp yn: Marine House, 2 Marine Road, Bae Colwyn, Conwy, LL29 8PH, neu drwy anfon e-bost at: datacontroller@hcegroup.co.uk

Os hoffech gysylltu ag Excel Civil Enforcement Limited yn uniongyrchol ynghylch eich data, ysgrifennwch at: Y Swyddog Diogelu Data, Marine House, 2 Marine Road, Bae Colwyn, Conwy, LL29 8PH, neu anfonwch e-bost at: datacontroller@hcegroup.co.uk

1. Pwy yw Excel Civil Enforcement Limited?

Mae Excel Civil Enforcement Limited yn rheolydd data ar eich data personol. Rydym yn cael ein rheoleiddio gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Fel rheolydd data, rydym wedi cofrestru ar wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

2. Pa fath o ddata personol ydyn ni’n ei gasglu a sut fyddwn ni’n ei ddefnyddio?

Rydym yn glynu wrth Egwyddorion Diogelu Data, fel y nodir yn Neddf Diogelu Data 2018 a’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR), a ddaeth i rym ym mis Mai 2018.

Yn benodol, mae’r Egwyddorion hyn yn mynnu bod gwybodaeth bersonol:

  • Yn cael ei phrosesu’n deg ac yn gyfreithlon ac, yn benodol, na fydd yn cael ei phrosesu oni bai fod amodau penodol yn cael eu bodloni
  • Ni chymerir data personol ond ar gyfer un neu ragor o ddibenion cyfreithlon a bennir ac ni fydd yn cael ei brosesu ymhellach mewn unrhyw ffordd nad yw’n gydnaws â’r diben hwnnw neu’r dibenion hynny
  • Bydd yn ddigonol, yn berthnasol a ddim yn ormodol mewn perthynas â’r diben neu’r dibenion y mae’n cael ei brosesu ar eu cyfer
  • Bydd yn gywir a, lle bo angen, yn cael ei ddiweddaru
  • Ni fydd yn cael ei gadw am gyfnod hwy nag sydd ei angen ar gyfer y diben hwnnw neu’r dibenion hynny
  • Bydd yn cael ei brosesu yn unol â hawliau gwrthrychau'r data dan y Ddeddf
  • Bydd mesurau sefydliadol a thechnegol priodol yn cael eu cymryd yn erbyn prosesu data personol heb awdurdod neu’n anghyfreithlon ac yn erbyn colli neu ddileu neu ddifrodi data personol yn ddamweiniol
  • Ni chaiff ei drosglwyddo i wlad na thiriogaeth y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd oni bai fod y wlad neu’r diriogaeth yn sicrhau lefel ddigonol o ddiogelwch ar gyfer hawliau a rhyddid gwrthrychau'r data mewn perthynas â phrosesu data personol

Byddwn, drwy drefniadau rheoli priodol, a thrwy lynu’n gaeth at y meini prawf a’r rheolyddion:

  • Yn rhoi sylw trwyadl i’r amodau ynghylch dulliau teg o gasglu a defnyddio gwybodaeth
  • Yn cyflawni ein rhwymedigaethau cyfreithiol i nodi at ba ddibenion y defnyddir gwybodaeth
  • Yn casglu a phrosesu gwybodaeth briodol, a ddim ond i’r graddau y mae ei hangen er mwyn cyflawni anghenion gweithredol neu i gydymffurfio ag unrhyw ofynion cyfreithiol
  • Yn sicrhau bod ansawdd a chywirdeb yr wybodaeth a ddefnyddir yn ddigonol ac yn cael ei gynnal
  • Yn defnyddio gwiriadau llym i bennu am ba hyd y cedwir gwybodaeth a’i bod yn cael ei storio am ddim mwy na’r hyn sy’n angenrheidiol
  • Yn sicrhau bod unigolion y cedwir gwybodaeth amdanynt yn gallu defnyddio’u hawliau’n llawn yn unol â’r Ddeddf a’r Rheoliadau
  • Yn cymryd mesurau diogelwch technegol a sefydliadol priodol i ddiogelu gwybodaeth bersonol
  • Yn sicrhau nad yw gwybodaeth bersonol yn cael ei throsglwyddo dramor i wledydd na chaniateir trosglwyddo iddynt o dan y GDPR

Rydym yn derbyn data personol sylfaenol gan ein cleientiaid, Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM ac awdurdodau statudol eraill pan fydd gorchmynion neu gyfarwyddiadau Llys yn cael eu rhoi i ni ar gyfer gorfodi neu gasglu sy’n ymwneud â’r canlynol:

  • Hawlwyr/credydwyr – gwybodaeth y gellir ei defnyddio i’ch adnabod chi fel unigolyn, fel enw, cyfeiriad a gwybodaeth gyswllt.
  • Diffynyddion/dyledwyr – gwybodaeth y gellir ei defnyddio i’ch adnabod chi fel unigolyn, fel enw, cyfeiriad a gwybodaeth gyswllt.

Mae’r wybodaeth bersonol a geir yn cynnwys enw, cyfeiriad(au) a manylion y dyfarniad, y warant neu’r gorchymyn a wnaed neu a gyhoeddwyd gan y Llys neu’r awdurdod statudol, sy’n cynnwys manylion yr arian sy’n ddyledus, yr eiddo neu’r tir y mae dyfarniad neu orchymyn yn cyfeirio ato neu gamau penodol a ddiffinnir yn y dyfarniad, y warant neu’r gorchymyn; er enghraifft danfon eitemau penodol i bobl benodol.

O bryd i’w gilydd, byddwn yn cael gwybodaeth am y posibilrwydd o fod yn agored i niwed, yn gyffredinol gan destun y data, neu gan unigolion neu asiantaethau sy’n gweithredu ar ei ran ef neu hi. Gallai’r wybodaeth hon, felly, ymwneud ag iechyd gwrthrych y data.

Categorïau arbennig o ddata personol:

Mae deddfwriaeth Diogelu Data’r DU yn diffinio data personol penodol fel data categori arbennig, er enghraifft data sy’n ymwneud â’ch tarddiad ethnig, eich iechyd corfforol a’ch iechyd meddwl.

Os byddwch yn datgelu’r math hwn o ddata personol i ni, ni fydd angen i ni gadw hyn ar gofnod oni bai fod hynny’n angenrheidiol ar gyfer y gwasanaethau rydym yn eu darparu. Pan fydd angen i ni gadw’r data hwn, byddwn bob amser yn gofyn am eich caniatâd penodol. Dim ond cyhyd ag y bo’n berthnasol y byddwn yn storio’r data hwn. Mae gennych chi’r hawl i dynnu eich cydsyniad yn ôl a bryd hynny byddwn yn dileu’r data categori arbennig o’n cofnodion.

Os byddwch yn datgelu data personol categori arbennig i ni heb i ni gael y cyfle i gael caniatâd penodol, er enghraifft os byddwch yn anfon llythyr atom yn rhoi manylion eich sefyllfa feddygol, byddwch felly wedi rhoi eich caniatâd i ni brosesu’r data hwnnw.

Os byddwn yn credu bod angen cofnodi’r data personol categori arbennig a roddwch i ni, byddwn yn cofnodi’r wybodaeth hon yn ddiogel.

Sut ydyn ni’n casglu eich data personol?

Rydym yn casglu eich gwybodaeth yn y ffyrdd canlynol:

  • Rydym yn cael data gan ein cleient ac unrhyw asiant a benodwyd gan ein cleient a chan Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM neu gan awdurdodau statudol eraill
  • Rydym yn cadw cofnodion o ohebiaeth rhyngom, gan gynnwys llythyrau, e-bost ac SMS
  • Rydym yn recordio galwadau ffôn rhyngoch chi a’n staff at ddibenion hyfforddi a monitro ac i wella’r gwasanaeth a gynigiwn i chi
  • Mae gennym systemau teledu cylch cyfyng yn ein hadeiladau busnes. Petaech yn ymweld â’n swyddfa, gallai eich delwedd gael ei chofnodi ar Deledu Cylch Cyfyng
  • Mae ein Hasiantau Gorfodi yn defnyddio Camerâu Fideo a Wisgir ar y Corff (BWVC) a phan ymwelir â chi, bydd eich delwedd a’ch llais yn cael eu dal
  • Rydym yn cael gafael ar ffynonellau data trydydd parti ac yn cyfuno phrosesu data o’r ffynonellau hynny gyda’ch data personol. Mae enghreifftiau o ffynonellau data trydydd parti o’r fath yn cynnwys y Gofrestrfa Tir, Asiantaethau Gwirio Credyd, cofrestri dyfarniadau llys, chwiliadau methdaliad, cronfeydd data chwilio am godau post a chronfeydd data dilysu rhifau ffôn
  • Gall trydydd partïon rydyn ni’n eu penodi gasglu data personol gennych chi a’i drosglwyddo i ni
  • Pan fyddwch chi’n defnyddio ein gwefan, byddwn ni’n casglu gwybodaeth am eich defnydd o’r wefan, patrymau ymddygiad, pa dudalennau y buoch yn edrych arnynt, data traffig ac enw parth cychwynnol eich darparwr gwasanaeth rhyngrwyd

3. Sut ydyn ni’n defnyddio eich data personol?

Mae’r data yr ydym yn ei gael, ei storio a’i brosesu yn angenrheidiol ac fe’i defnyddir i’n galluogi i orfodi’r cyfarwyddyd, y gwrit, y warant neu’r gorchymyn a thrwy hynny gydymffurfio â’r cyfarwyddiadau a gynhwysir yn y cyfarwyddyd, y gwrit, y warant neu’r gorchymyn, a chydag unrhyw orchymyn a wneir wedyn sy’n ymwneud â gorfodi’r cyfarwyddyd, y gwrit, y warant neu’r gorchymyn hwnnw.

Cyflogir staff gweinyddol ac Asiantau Gorfodi gennym ni i orfodi’r cyfarwyddyd, y gwrit, y warant neu’r gorchymyn. Rydym hefyd yn gorfodi cyfarwyddiadau neu orchmynion eraill a gyfeirir atom ac a wneir gan unrhyw berson neu endid a awdurdodir gan gyfreithiau Cymru a Lloegr i gyhoeddi gorchymyn neu gyfarwyddyd o’r fath.

Pan fydd gofyn i ni gael gwybodaeth iechyd pan fydd yn berthnasol i faterion sy’n ymwneud â bod yn agored i niwed, fel y darperir dan reoliadau 10 a 23 o Ran 2 o Reoliadau Cymryd Rheolaeth dros Nwyddau 2013, sy’n rheoli gorfodi gorchmynion o’r fath, bydd yr wybodaeth a geir yn cael ei defnyddio gan staff gweinyddol ac Asiantau Gorfodi i roi gwybod i gredydwyr pan fyddant wedi canfod dyledwyr o’r fath. Mae Asiantau Gorfodi a staff perthnasol wedi’u hyfforddi i adnabod a rheoli’r rhyngweithio â dyledwyr agored i niwed, a phryd i dynnu’n ôl o sefyllfaoedd o’r fath.

Defnyddir yr wybodaeth a geir felly i gysylltu â’r diffynnydd(diffynyddion)/dyledwr/dyledwyr yn y cam gorfodi, drwy e-bost, dros y ffôn neu neges destun SMS neu drwy gyfrwng Asiant Gorfodi.

Rydym yn cadarnhau na fydd unrhyw ran o’n hymchwiliad yn cael ei is-gontractio i unrhyw berson neu gwmni arall heb ganiatâd ymlaen llaw gan gleientiaid neu drwy orchymyn y Llys. Ni fydd unrhyw wybodaeth am wrthrych y data a roddir i ni gan ein cleientiaid neu a gafwyd yn ystod ein camau gorfodi yn cael ei defnyddio at unrhyw ddiben arall. Ar bob cam o’r broses orfodi, rydym yn gweithredu fel rheolydd data ac o’r herwydd byddwn yn cydymffurfio’n llawn â’r GDPR a’r Ddeddf Diogelu Data a’i hegwyddorion arweiniol.

Rydym hefyd yn defnyddio eich data personol i reoli ein gweithrediadau a gwella ein gwasanaethau i chi a’n cleientiaid, rheoli diogelwch, risg ac atal troseddu, bodloni ein gofynion rheoleiddio a dadansoddi ystadegau er mwyn gwella busnes.

Er mwyn i ni brosesu eich data personol, mae angen i ni gael sail gyfreithiol gyfiawn, sy’n golygu ei bod yn angenrheidiol prosesu eich data personol. Mae’r tabl yn nodi’r sail gyfreithiol rydym yn dibynnu arni er mwyn prosesu eich data personol yn gyfreithlon.

Proses busnes

  • Camau gorfodi, yn unol â chyfarwyddyd ein cleientiaid

Ein rheswm cyfreithlon dros brosesu

  • Perfformiad contract
  • Cydymffurfio â Gorchymyn Llys neu rwymedigaeth gyfreithiol

Sut ydyn ni’n defnyddio eich data

  • Fel busnes, ein gweithrediadau ni yw gorfodi Gorchmynion Llys ar ran ein cleientiaid. Fel rhan o’r broses orfodi, mae’n bosibl y bydd ein cleient yn gofyn i ni ymgymryd â gweithgareddau olrhain; dilysu pwy ydych chi, cysylltu â chi’n ysgrifenedig, drwy e-bost, SMS a dros y ffôn, cytuno ar drefniadau talu, prosesu taliadau ac ymgymryd ag ymgyfreitha

Proses busnes

  • Rheoli eich cyfrif

Ein rheswm cyfreithlon dros brosesu

  • Cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol
  • Buddiannau dilys
  • Perfformiad contract

Sut ydyn ni’n defnyddio eich data

  • Fel busnes, mae rhwymedigaeth arnom i reoli eich cyfrif ar ran ein cleient. Mae gennym ddiddordeb dilys mewn deall eich gallu i ad-dalu’r balans sy’n weddill yn ogystal â’r ffordd orau o gyfathrebu â chi; er mwyn gwneud hyn ar adegau byddwn yn defnyddio dadansoddiadau ystadegol a phrosesau awtomataidd i wneud penderfyniadau ynghylch y ffordd orau o ymgysylltu â chi.

Proses busnes

Hyfforddi, monitro a gwella ein gwasanaeth

Ein rheswm cyfreithlon dros brosesu

  • Cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol
  • Buddiant dilys

Sut ydyn ni’n defnyddio eich data

  • Er mwyn sicrhau ein bod yn darparu’r gwasanaeth gorau posibl, rydym yn defnyddio recordiadau o alwadau ffôn a Fideos a Wisgir ar y Corff (BWVC) a fydd yn cynnwys data personol ein cwsmeriaid, i hyfforddi staff
  • Rydym yn monitro eich defnydd o wefannau, gan gasglu gwybodaeth i wella ein gwasanaeth, effeithlonrwydd busnes a gweithgareddau ystadegol a dadansoddol

Proses busnes

  • Cydymffurfio â gofynion cyfreithiol a rheoleiddiol

Ein rheswm cyfreithlon dros brosesu

  • Buddiannau dilys
  • Perfformiad contract
  • Cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol

Sut ydyn ni’n defnyddio eich data

  • Ar adegau rydym yn rhannu data â thrydydd partïon eraill lle mae gennym ofyniad cyfreithiol neu reoleiddiol i wneud hynny, er enghraifft Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Fawrhydi, y Bwrdd Ymddygiad Gorfodaeth

4. Am ba hyd ydyn ni'n cadw eich data personol?

Ar ôl cwblhau’r gwaith gorfodi, mae’n ofynnol i ni gadw’r wybodaeth fanwl sy’n cofnodi gorfodi’r gwrit, y warant neu’r gorchymyn am 6 blynedd yn unol â Deddf Cyfyngiadau 1980. Oherwydd ei bod yn ofynnol i ni drwy statud a rheoliad orfodi cyfarwyddiadau a roddir i ni, nid ydym yn gallu dileu data personol sydd wedi’i storio at ddibenion gorfodi cyfarwyddiadau neu orchmynion o’r fath. Ni fyddwn yn datgelu unrhyw ddata personol i drydydd parti ar unrhyw adeg oni bai fod y Llys wedi gorchymyn yn benodol i ni wneud hynny.

5. Gyda phwy ydyn ni’n rhannu eich data personol?

Efallai y bydd angen i ni rannu eich data personol â sefydliadau eraill ar ryw adeg yn ystod y broses orfodi, er enghraifft:

  • Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF
  • Cyfreithwyr lle maent yn gweithredu ar ein rhan
  • Cwmnïau eraill a allai ein helpu i ddilysu bod y data a ddelir gennym yn gywir neu i gael gwybodaeth newydd – er enghraifft rhif ffôn newydd
  • Y credydwr gwreiddiol
  • Unrhyw berson neu gwmni yr ydych yn rhoi cyfarwyddyd i ni gysylltu ag ef – er enghraifft, ffrind, aelod o’r teulu, cynrychiolydd neu Gwmni Rheoli Dyledion

Pan fyddwn yn ymgysylltu â thrydydd parti, rydym yn sicrhau bod gan y trydydd parti lefel debyg o fesurau diogelu a rheoli ar waith cyn rhannu eich data personol â nhw.

6. Trosglwyddo eich data personol y tu allan i’r AEE

Efallai y byddwn yn trosglwyddo eich data personol i sefydliadau sy’n gweithredu y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd er mwyn storio data’n ddiogel. Pan fyddwn yn trosglwyddo eich data personol y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd, byddwn yn sicrhau bod eich data’n cael ei ddiogelu a bod unrhyw gyflenwyr yn rhan o’r darian preifatrwydd, a/neu fod y gofynion cytundebol priodol ar waith.

7. Rhannu gwybodaeth i atal troseddu neu niwed

Mae gennym systemau sy’n diogelu ein cwsmeriaid a ni’n hunain rhag twyll a throseddau eraill, gan gynnwys gwyngalchu arian. Gellir defnyddio gwybodaeth am gwsmeriaid i atal troseddu ac olrhain y rhai sy’n gyfrifol.

Fel rhan o’n gwaith parhaus yn monitro eich cyfrif ac i wasanaethu eich cyfrif, mae gennym rwymedigaethau cyfreithiol sy’n ei gwneud yn ofynnol i ni gael rhai manylion personol penodol i ddilysu pwy ydych chi. Os byddwch chi’n darparu gwybodaeth ffug neu anghywir, neu os bydd twyll neu drosedd ariannol arall yn cael ei ganfod neu ei amau, byddwn yn cael gwybodaeth sydd ar gael i’r cyhoedd, fel adroddiadau ar y cyfryngau neu gyhoeddiadau gan reoleiddwyr, a allai gynnwys manylion personol amdanoch chi, er enghraifft unrhyw euogfarnau troseddol. Os bydd twyll neu drosedd ariannol arall yn cael ei ganfod neu ei amau, bydd yn rhaid i ni drosglwyddo eich data personol i asiantaethau atal twyll neu awdurdodau eraill er mwyn atal a/neu ganfod troseddau ariannol. Mae gennym rwymedigaethau cyfreithiol i drosglwyddo’r data hwn i asiantaethau atal twyll a dyma ein sail gyfreithiol dros rannu data personol fel hyn.

Yr asiantaethau y gallem rannu eich data personol â nhw yw:

  • Yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol
  • Action Fraud
  • Gwasanaeth yr Heddlu
  • Cyllid a Thollau EF
  • Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF

Os oes gennym reswm i gredu eich bod yn y carchar, byddwn yn cael gwybodaeth sydd ar gael i’r cyhoedd, a allai gynnwys rhywfaint o’ch data personol, fel enw’r Carchar yr ydych ynddo a hyd eich dedfryd, i ddiweddaru’r wybodaeth sydd gennym amdanoch chi ac i reoli eich cyfrif yn y ffordd fwyaf priodol.

Os oes gennym reswm i gredu eich bod mewn perygl uniongyrchol, byddwn yn trosglwyddo eich data personol, gan gynnwys unrhyw fanylion sydd gennym am eich iechyd corfforol neu feddyliol, i’r Heddlu a gwasanaethau brys eraill er mwyn diogelu eich buddiannau hanfodol.

8. Sut allwch chi reoli eich data?

Rheoli eich cyfrif

Fel cleient i Excel Civil Enforcement Limited, gallwch gael gafael ar lawer o’r data a ddelir gennym sy’n ein galluogi i ddarparu ein gwasanaethau i chi. Gallwch wneud hyn drwy ein gwefan sydd ar gael yn https://clients.excelenforcement.co.uk/excel/login.

Eich hawliau chi

Gwrthwynebu prosesu

Mae gennych hawl i wrthwynebu i ni brosesu eich data os yw’r prosesu ei hun yn ymyrraeth ddiangen â’ch buddiannau neu eich hawliau. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am sut a pham rydym yn prosesu eich data personol yn adran 3 ‘Sut rydym yn defnyddio eich data personol?’

Os ydych chi’n dal i gredu bod gennych reswm dilys y gellir ei gyfiawnhau dros arfer yr hawl hon, gallwch gysylltu â ni drwy ddefnyddio’r manylion isod.

Cyfyngu ar brosesu

Os ydych chi’n credu ein bod yn prosesu eich data personol yn anghyfreithlon neu os ydych chi’n credu nad oes angen eich data personol arnom mwyach, mae gennych chi hawl i ofyn i ni gyfyngu ar brosesu eich data personol.

Yr hawl i anghofio

O dan ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych hawl i ofyn i ni ddileu eich data personol os ydych chi’n credu nad oes gennym sail gyfreithiol bellach i’w brosesu. Os ydych chi’n teimlo na ddylem fod yn prosesu eich data personol, gallwch gyflwyno cais ar y manylion isod.

Yr hawl i gywiro

Os ydych chi’n credu bod unrhyw ran o’r data personol sydd gennym ar eich cyfer yn anghywir, mae’n bwysig eich bod yn rhoi gwybod i ni cyn gynted â phosibl, er enghraifft os oes gennych chi rif ffôn newydd, cyfeiriad e-bost newydd neu os ydych chi wedi symud i gyfeiriad newydd.

Proffilio a gwneud penderfyniadau’n awtomatig

Ar adegau, rydym yn defnyddio’r data personol sydd gennym amdanoch chi i wneud penderfyniadau proffilio ac awtomatig, er enghraifft, y ffordd orau o ymgysylltu â chi.

Mae’r ddeddfwriaeth diogelu data newydd yn newid, lle mae proffilio neu wneud penderfyniadau’n awtomatig yn arwain at effaith gyfreithiol neu’n effeithio arnoch chi’n sylweddol yn yr un modd, mae angen i ni roi gwybod i chi am eich hawl i wrthwynebu. Nid ydym yn credu bod y proffilio a’r penderfyniadau a wneir gennym yn cael effaith gyfreithiol nac effaith sylweddol debyg arnoch chi, ond byddwn yn adolygu prosesau a rheolaethau o’r fath yn gyson ac yn diweddaru’r hysbysiad hwn yn unol â hynny.

Eich hawl i gludadwyedd

Mae gennych chi hawl i ofyn i ni drosglwyddo data personol rydych chi wedi’i roi i ni naill ai i chi eich hun neu i reolydd data arall. Gallwch arfer yr hawl i gludadwyedd data drwy gysylltu â ni ar y manylion isod (defnyddiwch “Hawl i Gludadwyedd” fel testun eich gohebiaeth):

Ysgrifennu: Y rheolydd data, Excel Civil Enforcement Limited, Marine House, 2 Marine Road, Bae Colwyn, Conwy, LL29 8PH

E-bost: datacontroller@hcegroup.co.uk

Cael gafael ar eich data

Mae gennych hawl i weld y data personol a ddelir gennym sy’n ymwneud â chi. Fel rheolydd data, byddwn hefyd yn sicrhau ein bod yn darparu unrhyw ddata personol ychwanegol a allai fod gan unrhyw un o’n proseswyr data amdanoch chi.

Rydym yn cymryd diogelu eich data personol o ddifrif, oherwydd hyn rydym yn cadw’r hawl i ofyn am brawf o bwy ydych chi cyn darparu unrhyw wybodaeth.

Ar ôl i ni ddilysu pwy ydych chi, byddwn yn ceisio ymateb i’ch cais o fewn mis calendr lle bo hynny’n bosibl. Byddwn fel arfer yn anfon eich data personol drwy’r Ddanfoniad wedi’i Gofnodi y Post Brenhinol. Fodd bynnag, os ydych chi’n dymuno ei dderbyn mewn fformat gwahanol, er enghraifft ar ddisg wedi’i hamgryptio, yna rhowch wybod i ni.

Er mwyn gwneud y cais hwn, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion isod (defnyddiwch “Cais Gwrthrych am Fynediad” fel testun eich gohebiaeth):

Ysgrifennu: Y rheolydd data, Excel Civil Enforcement Limited, Marine House, 2 Marine Road, Bae Colwyn, Conwy, LL29 8PH

E-bost: datacontroller@hcegroup.co.uk

9. Cwcis

Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis. Byddwn bob amser yn gofyn i chi ar y dudalen hafan a ydych chi am i ni roi cwci ar eich cyfrifiadur. Mae’r mwyafrif helaeth o borwyr gwe yn derbyn cwcis, ond gallwch newid gosodiadau eich porwr eich hun fel nad yw cwcis yn cael eu derbyn. Os byddwch yn gwneud hyn, efallai y byddwch yn colli rhai o swyddogaethau gweithredol ein gwefan. Ni fydd unrhyw gwcis a roddir gennym ni yn storio nac yn casglu unrhyw wybodaeth sy’n datgelu pwy ydych chi.

Rydym yn defnyddio cwcis a thechnolegau tebyg at sawl diben, gan gynnwys:

  • Storio eich dewisiadau a’ch gosodiadau. Efallai y bydd gosodiadau sy’n galluogi ein cynnyrch i weithredu’n iawn neu sy’n cynnal eich dewisiadau dros amser yn cael eu storio ar eich dyfais. Er enghraifft, os byddwch yn nodi eich dinas neu god post i gael gwybodaeth ar ein gwefan, efallai y byddwn yn storio’r data hwnnw mewn cwci er mwyn i chi allu gweld yr wybodaeth leol berthnasol pan fyddwch yn dychwelyd i’r safle. Rydyn ni hefyd yn cadw dewisiadau, fel iaith, porwr a gosodiadau chwaraewr amlgyfrwng, felly does dim rhaid ailosod y rheini bob tro byddwch chi’n dychwelyd i’r safle
  • Mewngofnodi a dilysu. Pan fyddwch chi’n mewngofnodi i wefan gan ddefnyddio manylion adnabod eich cyfrif, rydyn ni’n storio rhif adnabod unigryw, a’r amser rydych chi wedi mewngofnodi, mewn cwci wedi’i amgryptio ar eich dyfais. Mae’r cwci hwn yn caniatáu i chi symud o dudalen i dudalen yn y safle heb orfod mewngofnodi eto ar bob tudalen. Gallwch hefyd gadw eich gwybodaeth mewngofnodi fel nad oes rhaid i chi fewngofnodi bob tro y byddwch yn dychwelyd i’r safle
  • Diogelwch. Rydym yn defnyddio cwcis i ganfod twyll a chamddefnyddio ein gwefannau a’n gwasanaethau
  • Storio gwybodaeth rydych chi’n ei rhoi i wefan. Pan fyddwch chi’n darparu gwybodaeth ar ein gwefannau, rydyn ni’n storio’r data mewn cwci i gofio’r wybodaeth rydych chi wedi’i hychwanegu
  • Cyfryngau cymdeithasol. Mae rhai o’n gwefannau’n cynnwys cwcis cyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys y rheini sy’n galluogi defnyddwyr sydd wedi mewngofnodi i’r gwasanaeth cyfryngau cymdeithasol i rannu cynnwys drwy’r gwasanaeth hwnnw
  • Adborth. Efallai y byddwn yn defnyddio cwcis i’ch galluogi i roi adborth ar wefan
  • Dadansoddeg. Er mwyn darparu ein cynnyrch, efallai y byddwn yn defnyddio cwcis a dynodwyr eraill i gasglu data perfformiad a defnydd. Er enghraifft, rydym yn defnyddio cwcis i gyfrif nifer yr ymwelwyr unigryw â thudalen neu wasanaeth gwe ac i ddatblygu ystadegau eraill am weithrediadau ein gwasanaethau. Mae hyn yn cynnwys cwcis gennym ni a gan ddarparwyr dadansoddeg trydydd parti
  • Perfformiad. Rydyn ni’n defnyddio cwcis i gydbwyso llwythi er mwyn sicrhau bod gwefannau’n dal i weithio

I gael rhagor o wybodaeth am gwcis a sut i’w hanalluogi, ewch i: www.aboutcookies.org

10. Sut mae cwyno

Os hoffech wneud cwyn neu os oes gennych ymholiad ynghylch sut rydym yn defnyddio eich data personol, gallwch gysylltu â ni drwy ddefnyddio’r manylion isod:

Ysgrifennu: Y rheolydd data, Excel Civil Enforcement Limited, Marine House, 2 Marine Road, Bae Colwyn, Conwy, LL29 8PH

E-bost: datacontroller@hcegroup.co.uk

Os ydych yn anhapus â’r ffordd yr ydym wedi delio â’ch cwyn, mae gennych hawl i gwyno i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth:

Gwefan: https://ico.org.uk/concerns/

Ffôn: 0303 123 1113


Diweddarwyd 21ain Mawrth 2023

Excel Quick Pay – yr ap newydd i ddyledwyr

Gallwch lwytho’r ap i lawr a’i ddefnyddio am ddim. Mae wedi’i ddylunio i roi ffordd gyflym a hawdd i ddyledwyr reoli eu dyledion.

Dysgu mwy a lawrlwytho

Cofrestrwch i gael ein cylchlythyr

Cofrestrwch a byddwn yn anfon ein cylchlythyr misol atoch chi ynghyd â manylion am ein eLyfrau, gweminarau a digwyddiadau.

Tanysgrifio