Gwarantau arestio
Gellir rhoi gwarantau arestio a gwarantau traddodi am nifer o resymau, efallai fod amodau mechnïaeth wedi cael eu torri neu fod yr unigolyn dan sylw wedi peidio â dod i’r llys.Rydym yn fedrus ac yn brofiadol o ran cyflawni gwarantau arestio, gyda mechnïaeth neu beidio, ac rydym yn gweithio ar ran Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM ac awdurdodau lleol i ddarparu’r gwasanaeth hwn.
Mae gennym gerbydau pwrpasol sydd ar gael i gludo unigolion yn ddiogel, ac mae’r dechnoleg ddiweddaraf wedi’i gosod arnynt, gan gynnwys GPRS a dyfeisiau tracio.
Mae ein hyfforddiant cynhwysfawr i staff yn cynnwys rheoli gwrthdaro, iechyd a diogelwch, a rheoli risg.
Mae ein staff wedi cael eu hyfforddi i asesu a gwerthuso sefyllfaoeddwrth iddynt ddatblygu, gan gadw llygad am amgylchiadau’n newid neu risgiau posibl, gan gynnwys adnabod arwyddion rhybudd yn sgil ymddygiad neu dôn llais.
Bydd ein staff hefyd yn cwblhau’r holl waith papur, gan gynnwys datganiadau arbenigol gan dystion; bydd y rhain yn cael eu llwytho i fyny i’n system rheoli achosion a byddant ar gael i’w gweld.
Rydym yn defnyddio dillad amddiffynnol a chamerâu sy’n cael eu gwisgo ar y corff. Rydym yn credu y dylai’r wybodaeth sy’n hysbys gael ei rhannu â staff ac y dylid ystyried pob canlyniad posib wrth gynllunio i arestio pobl.