Gweithredu prosesau

Rydym yn cynnig gwasanaeth gweithredu prosesau cenedlaethol. Rydym yn darparu’r gwasanaeth gweithredu prosesau ar sail ffi sefydlog a gallwn fynd ati i weithredu cyn pen 24 awr i dderbyn y cyfarwyddyd. Rydym yn gweithredu prosesau ar ran adrannau’r Llywodraeth ac awdurdodau lleol yng nghyswllt eu gorchmynion statudol a deisebau gan unigolion a chwmnïau. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.

Rydym yn cydymffurfio â’r Rheolau Trefniadaeth Sifil er mwyn sicrhau nad oes gwallau mewn gweithdrefnau, gan osgoi unrhyw oedi. Rydym yn darparu adroddiadau cynhwysfawr a datganiad gwasanaeth ar ôl darparu’r dogfennau.

Ein gwasanaethau gweithredu prosesau

Mae’r gwasanaethau ar bob lefel yn cynnwys:

  • Cadarnhau ein bod wedi derbyn yr holl gyfarwyddiadau
  • Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i gleientiaid yn rheolaidd
  • Gwasanaeth paratoi dogfennau safonol
  • Datganiadau a ddarperir ar gyfer gorchmynion statudol, deisebau methdalu, deisebau dirwyn i ben a ffurflenni hawlio
  • Affidafidau a ddarperir ar gyfer Gorchmynion N39

Rydym yn cynnig gwasanaethau ar dair lefel:

Gwasanaeth safonol

Gellir cwblhau ein gwasanaeth safonol cyn pen 15 diwrnod gwaith. Mae’r gwasanaeth hefyd yn cynnwys gwasanaeth personol lle bo hynny’n ofynnol, sy’n cynnwys hyd at dri ymweliad ac ymweliad gyda’r nos.

Gwasanaeth hwylus

Gallwn gwblhau ein gwasanaeth hwylus cyn pen pum diwrnod gwaith, drwy ddarparu ateb cyflym a chyfleus i’ch anghenion o ran ymchwilio a gweithredu prosesau. Mae ein gwasanaeth hwylus hefyd yn cynnwys gwasanaeth personol lle bo hynny’n ofynnol, sy’n cynnwys hyd at dri ymweliad ac ymweliad gyda’r nos.

Gwasanaeth y diwrnod canlynol

Os oes cyfyngiadau amser llym gennych, mae ein gwasanaeth y diwrnod canlynol yn darparu gwasanaeth lle caiff dogfennau eu paratoi a’u cwblhau’r diwrnod canlynol (cyn 4.30pm os gofynnir am hynny). Mae’r gwasanaeth proffesiynol digyffelyb hwn yn sicrhau proses rwydd a didrafferth. Mae ein gwasanaeth hwylus hefyd yn cynnwys gwasanaeth personol lle bo hynny’n ofynnol, sy’n cynnwys hyd at dri ymweliad ac ymweliad gyda’r nos. Gellir teilwra’r gwasanaeth hwn yn unol â’ch gofynion penodol chi a gellir rhoi dyfynbris cyn cael cyfarwyddyd i fwrw ymlaen.

Defnyddio ein gwasanaethau

Rydym yn argymell eich bod yn defnyddio gweithredwr prosesau proffesiynol bob amser i sicrhau bod dogfennau’n cael eu paratoi yn gywir ac ar amser, ac fe allwn ddarparu’r gwasanaeth hwn i chi. Os oes angen darparu gwaith papur cyfreithiol arnoch, cysylltwch â ni neu ffoniwch ni ar 0845 370 7775 i gael rhagor o wybodaeth am sut gallwn ni eich helpu i weithredu prosesau.

Excel Quick Pay – yr ap newydd i ddyledwyr

Gallwch lwytho’r ap i lawr a’i ddefnyddio am ddim. Mae wedi’i ddylunio i roi ffordd gyflym a hawdd i ddyledwyr reoli eu dyledion.

Dysgu mwy a lawrlwytho

Cofrestrwch i gael ein cylchlythyr

Cofrestrwch a byddwn yn anfon ein cylchlythyr misol atoch chi ynghyd â manylion am ein eLyfrau, gweminarau a digwyddiadau.

Tanysgrifio