Dirwyon llysoedd ynadon Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM

Mae Excel Civil Enforcement wedi bod yn adfer dirwyon llysoedd ynadon ers dros ugain mlynedd. Rydym yn gwneud gwaith ar gontract i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder er mwyn darparu gwasanaethau i Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi.

Dirwyon llysoedd rydym yn eu gorfodi

Yn wahanol i fathau eraill o ddirwyon, nid oes cyfyngiad ar ddirwyon llysoedd ynadon, nid ydynt yn amodol ar gyfyngiad ac nid oes modd eu cynnwys mewn gorchymyn methdalu.

Mae’r dirwyon llysoedd rydym yn eu gorfodi yn cynnwys:

  • Gwarantau rheoli (ar gyfer dirwyon heb eu talu)
  • Gwarantau arestio (mechnïaeth, dim mechnïaeth, torri amodau a thraddodi)
  • Gorchmynion iawndal ac atafaelu
  • Gorchmynion clampio

Swyddogion gorfodi cymwys sydd wedi’u hyfforddi

Mae gennym swyddogion gorfodi cymwys sydd wedi’u hyfforddi’n llawn ar y ffyrdd mewn faniau sydd â’r holl offer angenrheidiol a gyda chamerâu sy’n cael eu gwisgo ar y corff. Rydym yn cynnal asesiadau risg trylwyr ac mae ein swyddogion wedi’u hyfforddi i gadw llygad am arwyddion bod pobl yn agored i niwed yn sgil ein rhaglen fewnol sy’n darparu hyfforddiant pwrpasol.

Mae ein holl swyddogion gorfodi yn weithwyr cyflogedig.

Ffioedd a'r camau

Gallwch weld y ffioedd a’r camau y mae modd eu hadfer yma:

Excel Quick Pay – yr ap newydd i ddyledwyr

Gallwch lwytho’r ap i lawr a’i ddefnyddio am ddim. Mae wedi’i ddylunio i roi ffordd gyflym a hawdd i ddyledwyr reoli eu dyledion.

Dysgu mwy a lawrlwytho

Cofrestrwch i gael ein cylchlythyr

Cofrestrwch a byddwn yn anfon ein cylchlythyr misol atoch chi ynghyd â manylion am ein eLyfrau, gweminarau a digwyddiadau.

Tanysgrifio